Paganiaeth fodern yn y Deyrnas Unedig

Prif grefyddau o fewn mudiad Paganiaeth Fodern yn y Deyrnas Unedig yn bennaf yw Wica, dewiniaeth neo-baganaidd, Derwyddiaeth, a Phaganiaeth Almaenig. Nododd 74,631 o bobl yng Nghymru, Lloegr, a'r Alban eu bod naill ai'n Bagan neu'n aelod o grŵp Paganiaeth Fodern penodol yng Nghyfrifiad y DU 2011.

Paganiaeth fodern yn y Deyrnas Unedig
Côr y Cewri, sy'n lleoliad pwysig i ymarfrion penodol neo-dderwyddiaeth.[1]
Nifer o ddilynwyr
Y Deyrnas Unedig Y Deyrnas Unedig: 126,980 – 0.2%
(Cyfrifiad 2021/22 Census)
[a][2][3][4]
Llefydd â nifer o ddilynwyr uchel
 Lloegr99,500 – 0.2% (2021)
 Yr Alban19,113 – 0.4% (2022)[b]
 Cymru7,033 – 0.2% (2021)
 Gogledd Iwerddon1,334 – 0.1% (2021)
Crefyddau
Hefyd yn cynnwys Neo-baganieth Almaenig, Derwyddiaeth, Holl-dduwiaeth, Gwrachyddiaeth, Animistiaeth, ac Adluniaeth
Grwpiau ethnig cysylltiedig
Neo-baganiaeth yng Ngweriniaeth Iwerddon

Demograffeg

golygu

Cymharodd astudiaeth a gynhaliwyd gan Ronald Hutton nifer o wahanol ffynonellau (gan gynnwys rhestrau aelodaeth o sefydliadau mawr yn y Deyrnas Unedig, presenoldeb mewn digwyddiadau mawr, tanysgrifiadau i gylchgronau, ac ati), a defnyddiodd fodelau safonol ar gyfer cyfrifo niferoedd tebygol o Baganiaid o fewn y Deyrnas Unedig. Roedd yr amcangyfrif hwn yn cyfrif am orgyffwrdd aelodaeth luosog yn ogystal â nifer yr ymlynwyr a gynrychiolir gan bob mynychwr o ddigwyddiad Paganaidd. Amcangyfrifodd Hutton fod 250,000 o ymlynwyr rhyw fath o grŵp Paganaidd yn y Deyrnas Unedig, sy’n cyfateb yn fras i’r gymuned Hindŵaidd genedlaethol yn ôl yn 2001 pan oedd yn llawer llai nag y mae heddiw (ar hyn o bryd mae dros filiwn o Hindŵiaid yn y Deyrnas Unedig).

Awgrymir nifer llai gan ganlyniadau Cyfrifiad 2001, lle gofynnwyd cwestiwn am ymlyniad crefyddol am y tro cyntaf. Roedd yr ymatebwyr yn gallu cofnodi crefydd nad oedd yn cael ei gynnwys yn y rhestr o grefyddau cyffredin, a datganodd cyfanswm o 42,262 o bobl yn Lloegr, yr Alban, a Chymru eu bod yn Baganiaid (neu 23% o'r 179,000 o ymlynwyr o "grefyddau eraill" yn y canlyniadau). I ddechrau, ni ryddhawyd y ffigurau hyn gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ond fe'u rhyddhawyd ar ôl cais am wybodaeth gan y Ffederasiwn Paganaidd (cangen yr Alban).[5] Gyda phoblogaeth o tua 59 miliwn adeg Cyfrifiad 2001, mae hyn yn rhoi cyfran fras o 7 Pagan fesul 10,000 o drigolion y Deyrnas Unedig.

Nid oedd ffigurau Cyfrifiad y DU 2001 yn gallu rhoi dadansoddiad cywir o draddodiadau o fewn y pennawd "Pagan," gan fod ymgyrch gan y Ffederasiwn Paganaidd cyn y cyfrifiad yn annog i Wiciaid, Paganiaid, Derwyddon ac eraill ddefnyddio'r un term, sef 'Pagan,' er mwyn macsimeiddio'r niferoedd a adroddir. Fodd bynnag, gwnaeth cyfrifiad 2011 hi'n bosibl ddisgrifio'ch hun fel Pagan-Wiciad, Pagan-Derwydd ac ati. Mae’r ffigurau ar gyfer Cymru, Lloegr, a’r Alban fel a ganlyn:

Disgrifiad Lloegr Cymru Alban
Pagan 53,172 3,448 3,467
Wica 11,026 740 949
Derwydd 3,946 243 245
Pantheistiaeth 2,105 111 135
Pagan Almaenig 1,867 91 150
Dewiniaeth 1,193 83 81
Shamaniaeth 612 38 92
Animistiaeth 487 54 44
Adlunydd 223 28 31
Cyfanswm 74,631 4,836 5,194

Cododd niferoedd cyffredinol y bobl a oedd yn nodi eu bod yn Bagan neu'n ddilynwr o un o'r categorïau eraill yn y tabl uchod rhwng 2001 a 2011. Yn 2001, nododd tua saith person fesul 10,000 o ymatebwyr yn y DU eu bod yn Bagan; yn 2011, y nifer (yn seiliedig ar boblogaeth Cymru a Lloegr) oedd tua 14 person fesul 10,000 o ymatebwyr.

Awgrymodd ymchwil a gynhaliwyd gan Dr Leo Ruickbie mai de-ddwyrain Lloegr oedd â'r crynodiad uchaf o Baganiaid yn y wlad.[6]

Cyfrifiad 2021

golygu
Mudiad Paganaidd   Lloegr
(2021)[2]
  Yr Alban
(2022)[3]
  Cymru
(2021)[2]
Gogledd Iwerddon
(2021)[4]
  Y Deyrnas Unedig
(2021/22)[c]
Paganiaeth fodern 68,629 19,113 5,104 840 93,686
Wicca 11,946 I'w gadarnhau,
dim ond ffigyriau 2011 sydd ar gael[7]
867 243 13,056
Siamanaeth 7,624 265 15 7,904
Paganiaeth Almaenig 4,478 243 70 4,791
Derwyddiaeth fodern 2,268 222 37 2,527
Holl-dduwiaeth 2,158 141 81 2,380
Gwrachyddiaeth fodern 967 77 0 1,044
Animistiaeth 733 69 48 850
Adluniaeth 697 45 0 742
Cyfanswm 99,500 I'w gadarnhau 7,033 1,334 126,980

Crefyddau

golygu

Mae Paganiaeth Fodern yn y DU yn cael ei dominyddu gan Wica, Dderwyddiaeth fodern, a ffurfiau ar Baganiaeth Almaenig.

 
Wiciaid yn ymgynnull ar gyfer seremoni llawafael yn Avebury yn Lloegr.

Datblygwyd Wica yn Lloegr yn hanner cyntaf yr 20g.[8] Yn gyffredinol, mae'n grefydd ddeuoliaethol sy'n addoli'r Duw Corniog a'r Dduwies Leuad. Er bod iddi enwau amrywiol yn y gorffennol, o'r 1960au ymlaen normaleiddiwyd enw'r grefydd i Wica. [9]

Noe-baganiaeth Almaenig

golygu

Mae Neo-baganiaeth Almaenig yn cynnwys amrywiaeth o fudiadau modern sy'n ceisio adfywio paganiaeth Almaenig, megis yr un a arferid yn Ynysoedd Prydain gan yr Eingl-Sacsoniaid a'r Llychlynwyr cyn Cristnogaeth. Sefydlwyd Asatru UK yn 2013 ac mae’n gweithredu fel grŵp cenedlaethol ar gyfer pob Neo-bagan Almaenig.[10][11]

Gweler hefyd

golygu

 

  • Wica
  • Teithwyr yr Oes Newydd
  • The Pagan Review
  • Crefydd yn y Deyrnas Gyfunol

Nodiadau

golygu

Troednodiadau

golygu
  1. Khouri, Andrew (2010-06-21). "Thousands celebrate solstice". NBC News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar March 5, 2016. Cyrchwyd 2010-10-03.
  2. 2.0 2.1 2.2 "TS031: Religion (detailed)". Office for National Statistics. Cyrchwyd 5 April 2023.
  3. 3.0 3.1 "Scotland's Census 2022 - Ethnic group, national identity, language and religion - Chart data". Scotland's Census. National Records of Scotland. 21 May 2024. Cyrchwyd 21 May 2024. Alternative URL 'Search data by location' > 'All of Scotland' > 'Ethnic group, national identity, language and religion' > 'Religion'
  4. 4.0 4.1 "MS-B21 Religion - full detail". Northern Ireland Statistics and Research Agency. Cyrchwyd 30 November 2023.
  5. Pagan Federation, Scotland (25 March 2004). "The Pagan Federation in Scotland - Census Results". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 January 2010. Cyrchwyd 4 April 2010.
  6. Ruickbie, Leo (2004). Witchcraft Out of the Shadows. Robert Hale. t. 170. ISBN 0-7090-7567-7.
  7. "2011 Detailed Table- Religion" (PDF). National Records of Scotland. Cyrchwyd 10 February 2018.
  8. Hutton, Ronald (1999). The Triumph of the Moon: A History of Modern Pagan Witchcraft. Oxford, NY: Oxford University Press. t. vii. ISBN 0-19-820744-1.
  9. Seims, Melissa (2008). "Wica or Wicca? - Politics and the Power of Words". The Cauldron (129). http://www.thewica.co.uk/wica_or_wicca.htm. Adalwyd 2024-12-06.
  10. "Home | Welcome to the website of Asatru UK". Asatru UK (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-05-16.
  11. "Asatru UK". Facebook. Cyrchwyd 18 December 2021.

Cyfeiriadau

golygu


Gwall cyfeirio: Mae tagiau <ref> yn bodoli am grŵp o'r enw "lower-alpha", ond ni ellir canfod y tag <references group="lower-alpha"/>