Palais-Royal
Mae'r Palais-Royal yn un o gyn-balasau teulu brenhinol Ffrainc. Lleolir hi yn arrondissement 1af Paris, i'r gogledd o'r Louvre. Ei enw gwreiddiol oedd y Palais-Cardinal, ac fe'i adeiladwyd ar gyfer Cardinal Richelieu tua 1633 i 1639 gan y pensaer Jacques Lemercier. Gan i Philippe d'Orléans wneud newidiadau mawr dros y blynyddoedd, nid oes bron dim ar ôl o ddyluniad gwreiddiol Lemercier.
Palais-Royal | |
---|---|
Gwybodaeth gyffredinol | |
Lleoliad | Paris, Ffrainc |
Cyfeiriad | 204 Rue Saint-Honoré, Place du Palais-Royal |
Dechrau adeiladu | 1633 |
Gorffenwyd | 1639 |
Adferwyd | 1698–1700; 1719–1729; 1753–1779; 1782–1783; 1791–1793; 1828–1830 |
Cynllunio ac adeiladu | |
Client | Cardinal Richelieu |
Pensaer |
|
Gwefan | |
domaine-palais-royal.fr/en/ |
Mae'r Palais-Royal bellach yn cael ei ddefnyddio fel sedd y Weinyddiaeth Ddiwylliant, y Conseil d'État a'r Cyngor Cyfansoddiadol. Mae canol gardd y Palais-Royal (Jardin du Palais-Royal) yn barc cyhoeddus gyda siopau a thai bwyta mewn arcêd, a fflatiau uwchben.
Hanes
golyguPalais-Cardinal
golyguYr enw gwreiddiol oedd y Palais-Cardinal, roedd y palas yn gartref personol i Cardinal Richelieu.[1] Dechreuodd y pensaer Jacques Lemercier ei ddyluniad yn 1629, dechreuwyd y gwaith adeiladu yn 1633 ac fe'i cwblhawyd yn 1639.[1] Dechreuwyd y gerddi yn 1629 gan Jean Le Nôtre (tad André Le Nôtre), Simon Bouchard, a Pierre I Desgots, i gynllun a grëwyd gan Jacques Boyceau. Pan fu farw Richelieu yn 1642 daeth y palas yn eiddo i'r Brenin, Louis XIII, a chafodd yr enw newydd Palais-Royal.[1]
Ar ôl marwolaeth Louis XIII y flwyddyn ganlynol, daeth yn gartref i Fam Frenhines Anne o Awstria a'i meibion ifanc Louis XIV a Philippe, duc d'Anjou,[2] ynghyd â'i chynghorydd Cardinal Mazarin.
Philippe I, Dug Orléans
golyguPriododd Henrietta Anne frawd iau Louis, Philippe de France, duc d'Orléans yng nghapel y palas ar 31 Mawrth 1661. Ar ôl eu priodas, caniataodd Louis XIV i'w frawd a'i wraig ddefnyddio'r Palais-Royal fel eu prif breswylfa ym Mharis. Y flwyddyn ganlynol, rhoddodd y Dduges newydd enedigaeth i ferch, Marie Louise d'Orléans. Hi creodd erddi addurniadol y palas, dywedir eu bod ymhlith y harddaf ym Mharis. Yng nghyfnod y pâr newydd, byddai'r Palais-Royal yn troi mewn i ganolfan gymdeithasol y ddinas.
Cafodd y palas ei ailaddurno a chrëwyd fflatiau newydd ar gyfer morynion a staff y Dduges. Tua 1674, gofynnodd Dug Orléans i André Lenôtre i ail-ddylunio gerddi'r Palais-Royal.[3]
Ar ôl i Henrietta Anne farw yn 1670 cafodd y Dug ail wraig, y Dywysoges Palatine. Yr oedd yn well ganddi fyw yn y Château de Saint-Cloud. Felly daeth Saint-Cloud yn brif breswylfa ei mab hynaf ac etifedd Tŷ'r Orléans, Philippe Charles d'Orléans a elwir y duc de Chartres.[4]
Heddiw
golyguYn 2024, mae'r gerddi, a'r celf fodern sydd yn y Cour d'honneur yn atyniad twristaidd poblogaidd.
Oriel
golygu-
Galerie de Montpensier yn 2012
-
Galerie Cour d'Honneur yn 2021
-
Galerie de Beaujolais yn 2012
-
Ffynnon yn y gerddi
-
Y bugail a'r gafr (1830), gan Paul Lemoyne
-
Celf fodern gan Daniel Buren
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Horne, Alistair (2004). La Belle France. USA: Vintage. t. 131. ISBN 978-1-4000-3487-1.
- ↑ Parmele, Mary Platt (1906). A Short History of France. New York: C. Scribner's sons. tt. 142–143.
- ↑ Hazlehurst (1980). Gardens of Illusion, p. 189.
- ↑ Brother to the Sun king:Philippe, Duke of Orléans by Nancy Nicholas Barker