Pam Fod Eira'n Wyn
Cân Gymraeg gan Dafydd Iwan (ganed 1943) yw "Pam Fod Eira'n Wyn".[1]
Enghraifft o'r canlynol | cân |
---|---|
Iaith | Cymraeg |
Cyfansoddwr | Dafydd Iwan |
Cynnwys
golyguYn y gân hon mae Dafydd Iwan yn ceisio esbonio ei rwystredigaeth fod yn rhaid i Gymro frwydro am ei hawliau sylfaenol, hawliau mae pobl mewn gwledydd eraill yn eu cymryd yn ganiataol.[1] Cwestiwn rhethregol yw teitl y gân (yn hytrach na chwestiwn am eira) lle mae'r canwr yn datgan pa mor ffôl yw'r cwestiwn. Mae'r awdur wedi syrffedu ar bobl yn ei holi ef am ei deimladau am fod yn Gymro. Does dim angen gofyn cwestiwn mor ffôl gan fod Cymru a'r Gymraeg yn bethau hollol naturiol i'w fodolaeth. Mae'r teitl a dechrau'r gân yn cyfeirio at fyd natur:
"Pan fydd haul ar y mynydd,
Pan fydd gwynt ar y môr,
Pan fydd blodau ar y perthi,
A'r goedwig yn gôr"
Sonir yma am y tywydd, y mynyddoedd, y môr, y llwyni, a chôr o adar yn canu yn y goedwig. Yna cymhara'r canwr ddagrau person sy'n annwyl iddo â byd natur, sef y gwlith a geir ar y gwair ben bore fel gwe pry cop. Dywed y canwr ei fod yn "gwybod, bryd hynny, / Mai hyn sydd yn iawn". Sylweddola mai dyma yw'r drefn a'u bod yn bethau naturiol yn ei fywyd yn union fel ei Gymreictod.
Mae'r ail bennill yn fwy personol: "Pan fydd geiriau fy nghyfeillion". Mae Dafydd Iwan yn sôn am ei ffrindiau, a'u geiriau yn felys fel gwin a sŵn cyfarwydd a thyner sydd ganddynt, "yn dawnsio ar eu min". Yma ceir teimlad atgofus ac hiraethus wrth i'r canwr feddwl am bobl sy'n annwyl iddo. Mae'n teimlo'n well wrth glywed "hen alaw", sef cân sy'n esmwytho ei glyw. Pan ddigwydda hyn ceir teimlad o berthyn, wrth iddynt siarad a chwerthin yn naturiol trwy'r Gymraeg.
Yn y trydydd pennill hwn mae'r canwr yn troi at bethau cas ac annymunol. Sonir am fywyd caled y glowyr a'r "gwaed ar y garreg las" sy'n dangos eu dioddefaint a pherygl y gwaith. Mae'r tyddynwyr hefyd wedi cael bywyd caled, yn hel ychydig o arian i fyw. Sonir wedyn am bren trwm sydd am wddf bachgen, cyfeiriad at y Welsh Not, a oedd yn cael ei ddefnyddio i gosbi disgyblion pan oedd y Gymraeg i'w chlywed yn yr ysgolion ar droad y ganrif ddiwethaf. Pan feddylia'r canwr am y pethau yma—y dioddefaint—dydy pethau ddim mor braf. Daw i benderfyniad yn y ddwy linell olaf:
"Rwy'n gwybod bod rhai i minnau
Sefyll dros fy mrawd."
Mae'r canwr yn gweld pethau cas ac yn teimlo bod rhaid iddo sefyll dros hawliau pobl.
Yn y gytgan, dywed y canwr ei fod yn gwybod beth yw rhyddid, y gwirionedd a chariad at ei bobl a'i wlad. Mae'n cyfarch ei wrandawyr gan orchymyn i ni beidio â gofyn cwestiynau gwirion, er enghraifft "pam fod eira'n wyn". Rydym yn cymryd pethau'n ganiataol, a theimla'r canwr ein bod yn rhy barod i dderbyn pethau ac y dylid gweithredu i amddiffyn ein hawliau.
Arddull
golyguGwelir llawer o ailadrodd yn y gân hon. Yn y pennill cyntaf ailadroddir "pan fydd". Gwelir "pan welaf" yn y trydydd pennill. Yn y pennill olaf ceir newid, ac ailadroddir "rwy'n gwybod beth yw", lle mae'n sôn amdano ef ei hun.
Yn y pennill cyntaf gwelir enghraifft o gyflythrennu: "a'r goedwig yn gôr". Yn y trydydd pennill ceir y gytsain "g" unwaith eto yn y llinell "a'r gwaed ar y garreg las".
Ceir nifer o gymariaethau yn y gân hon. Yn y pennill cyntaf cymhara'r canwr ddagrau person, sy'n annwyl iddo, â gwlith. Cymhara â byd natur wna'r bardd yma a cheir teimlad rhamantus. Cymhara'r canwr eiriau ei ffrindiau â blas gwin sy'n felys ac yn ddymunol iddo yn yr ail bennill:
"Pan fydd geiriau fy nghyfeillion
Yn felys fel y gwin"
Yn y ddau bennill cyntaf mae'r canwr yn cyfeirio at fyd natur, ffrindiau a phethau sy'n annwyl iddo, er enghraifft:
"A'r seiniau mwyn, cynefin,
Yn dawnsio ar eu min"
Ceir cyferbyniad pan y try'r canwr at bethau cas ac annymunol yn y trydydd pennill wrth gyfeirio at ddioddefaint, er enghraifft:
"Pan welaf graith y glöwr,
A'r gwaed ar y garreg las"
Ceir rhagor o wrthgyferbynnu yn newis y canwr o'i ansoddeiriau: rhai dymunol, megis "melys", "mwyn", "cynefin", sydd yn yr ail bennill, ond ansoddair annymunol, "tlawd", a geir yn y trydydd pennill.
Cân mydr ac odl yw hon, gydag odl bob diwedd llinell 2 a 4 a llinell 6 ac 8 ym mhob pennill.
Neges
golyguTeimla Dafydd Iwan ein bod mor barod i dderbyn pethau. Ei neges yn y gân yw i beidio â chymryd pethau'n ganiataol. Rhaid i ni sefyll dros yr hyn rydym ni'n ei gredu a gweithredu.[2]
Dylanwad ieithyddol
golyguYn draddodiadol, ystyrir "Pam mae..." yn gywir a "Pam fod..." yn anghywir[3][4], ond wrth i ddefnydd "Pam fod..." ddod yn fwy cyffredin, mae rhai wedi awgrymu bod y gân yn rhannol gyfrifol.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 The Oxford Companion to the Literature of Wales (yn Saesneg). Oxford University Press. 1986. t. 286. ISBN 9780192115867.
- ↑ The International Who's Who in Popular Music 2002 (yn Saesneg). Taylor & Francis Group. 2002. t. 249. ISBN 9781857431612.
- ↑ HyderNidPryder (2021-09-01). "Is it always "pam bod/fod" rather than "pam mae" ?". r/learnwelsh. Cyrchwyd 2023-10-29.
- ↑ Thomas, Peter Wynn (1996). Gramadeg y Gymraeg (arg. Adargraffwyd gyda mân ddiwygiadau). Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 978-0-7083-1345-9.
- ↑ "cysylltnod a pam bod/fod".