Parc Cenedlaethol W

Parc cenedlaethol mawr yng ngorllewin Affrica yw Parc Cenedlaethol W (Ffrangeg: "W" du Niger). Fe'i lleolir o gwmpas ymddoleniad ar Afon Niger o siâp "W". Tra bod y rhan fwyaf o'r parc yn gorwedd yn Niger, mae rhannau ohono yn gorwedd yn Benin a Bwrcina Ffaso yn ogystal. Ychydig iawn o bobl sy'n byw yn ei 10,000 km². Creuwyd y parc ar 4 Awst 1954.

Parc Cenedlaethol W
Mathparc cenedlaethol, gwarchodfa bïosffer, ardal gadwriaethol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1954 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolW-Arly-Pendjari Complex Edit this on Wikidata
LleoliadNiger Edit this on Wikidata
GwladBenin, Niger, Bwrcina Ffaso Edit this on Wikidata
Arwynebedd10,182.8 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau12°N 2.5°E, 12.0408°N 3.0342°E Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethrhan o Safle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Manylion

Mae'r parc yn adnabyddus am ei famaliaid mawr, gan gynnwys aardvarks, babŵns, byffloau, caracaliaid, cheetahs, eliffantod, afonfeirch, llewpardau, llewod, servalau a warthogs.

Ychwanegwyd y parc at restr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth y Byd yn 1996.

Afon Niger yn llifo mewn siap 'W'

Dolenni allanol

golygu