Mae Parc Griffith yn barc mawr ym mhen dwyreiniol Mynyddoedd Santa Monica, yng nghymdogaeth Los Feliz yn Los Angeles, Califfornia. Mae'r parc 4,310 acr (1,740 ha), un o'r parciau dinas fwyaf yng Ngogledd America.[1] Hwn yw'r parc dinas ail-fwyaf yng Nghaliffornia, ar ôl i 'Mission Trails' yn San Diego, a'r 11eg parc mwyaf sy'n berchen i'r wlad yn yr Unol Daleithiau.[2] Cyfeiriwyd ato hefyd fel Parc Canolog Los Angeles, ond y mae'n llawer mwy, yn fwy gwyllt, ac yn arw na'i gymar yn Ninas Efrog Newydd.[3][4][5]

Parc Griffith
Mathparc Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1896 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadHollywood Edit this on Wikidata
SirLos Angeles Edit this on Wikidata
GwladBaner UDA UDA
Yn ffinio gydaHollywood Reservoir Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau34.1333°N 118.3°W Edit this on Wikidata
Map

Hanes golygu

Fferm estrys golygu

Ar ôl bod yn llwyddiannus wrth fuddsoddi mewn mwyngloddio, prynodd y diwydiannwr Cymraeg-Americanaidd Griffith J. Griffith y Rancho Los Feliz ym 1882. Cychwynnodd fferm estrys yno. Er ei fod yn gyffredin i ddefnyddio plu estrys er mwyn gwneud hetiau menywod ar ddiwedd y 19eg ganrif, prif bwrpas Griffith oedd denu trigolion Los Angeles i’w eiddo cyfagos. Ar ôl bod yn llwyddiannus yn denu trigolion i'w eiddo, rhoddodd Griffith 3,015 acr (1,220 ha) i ddinas Los Angeles ar Ragfyr 16, 1896.[6]

Cafodd Griffith ei ddyfarnu'n euog o saethu ei wraig mewn digwyddiad ym 1903.[7] Pan gafodd ei ryddhau o'r carchar, ceisiodd ariannu adeiladu amffitheatr, arsyllfa, planetariwm, a gwersyll merched a gwersyll bechgyn yn y parc. Fodd bynnag, cafodd ei enw da yn y ddinas ei lygru gan ei drosedd, felly gwrthododd y ddinas ei arian.

 
Afon Los Angeles ym Mharc Griffith, c. 1898-1910

Erodrom Parc Griffith golygu

Ym 1912, dynododd Griffith 100 acr (40 ha) o'r parc, yn ei gornel ogledd-ddwyreiniol ar hyd Afon Los Angeles, i'w gael ei ddefnyddio i "wneud rhywbeth er mwyn datblygu awyrennau". Erodrom Parc Griffith oedd y canlyniad. Cafodd ei defnyddio gan arloeswyr hedfan megis Glenn L. Martin a Silas Christoffersen, a chafodd yr erodrom ei roi i Wasanaeth Awyr y Gwarchodlu Cenedlaethol. Roedd y rhedfa 600m yn parhau i gael ei ddefnyddio tan 1939, pan gafodd ei chau. Symudodd sgwadron y Gwarchodlu Cenedlaethol i Van Nuys, a dymchwelwyd yr Erodrom. Rhwng 1946 a chanol y 1950au defnyddiwyd ardal yr erodrom ar gyfer prosiect tai cyhoeddus. Heddiw defnyddir yr ardal ar gyfer mae maes parcio Sw Los Angeles, Amgueddfa Treftadaeth Orllewinol Gene Autry, caeau pêl-droed, a'r gyfnewidfa hewl.

Ehangu golygu

 
Merched yn bwyta yng Ngwersyll Merched Griffith Park, c. 1920

Sefydlodd Griffith gronfa arian ar gyfer unrhyw welliannau i'r parc. Ar ôl iddo farw ym 1919 dechreuodd y ddinas adeiladu'r hyn yr oedd Griffith wedi'i eisiau. Cwblhawyd yr amffitheatr, a elwir y Theatr Roegaidd, ym 1930, a gorffennwyd Arsyllfa Griffith ym 1935. Yn dilyn rhodd wreiddiol Griffith, daeth nifer o roddion eraill er mwyn ehangu'r Parc i'w faint presennol.

Ym mis Rhagfyr, 1944 rhoddodd Cwmni Sherman 444 erw o fannau agored Hollywoodland i Barc Griffith. Mae'r ardal fawr, eco-sensitif hwn yn ffinio â Llyn Hollywood i'r gorllewin, hen arwydd Hollywoodland i'r gogledd, a Bronson Canyon i'r dwyrain, lle mae'n cysylltu â rhodd wreiddiol Griffith. Mae cymuned breswyl Hollywoodland wedi'i hamgylchynu gan y tir hwn.[8][9][10]

Ail Ryfel Byd golygu

Ar ôl bomio Pearl Harbour, cafodd gwersyll y Corfflu Cadwraeth Sifil, a oedd wedi'i leoli o fewn Parc Griffith, ei drawsnewid yn ganolfan i gadw Americanwyr Japaneaidd a arestiwyd fel "estroniaid gelyn" cyn iddynt gael eu trosglwyddo i wersylloedd parhaol. Agorodd y gwersyll hwn bron yn syth ar ôl ymosodiad Pearl Harbour.[11]

Ar 14 Gorffennaf 1942, daeth y gwersyll hwn yn Ganolfan Brosesu Carcharorion Rhyfel ar gyfer carcharorion rhyfel o'r Almaen, yr Eidal, a Japan. Roedd yn gweithredu tan 3 Awst 3 1943, pan drosglwyddwyd y carcharorion i rywle arall.[11]

Tanau golygu

 
Wedi'r tân yn 2007. Defnyddiwyd tonfeddi golau gweladwy ac is-goch i wneud y ddelwedd loeren hon. Mae llystyfiant yn ymddangos yn wyrdd, tra bod yr ardaloedd llosg yn ymddangos yn llwyd.

Roedd 3,780 o weithwyr yn y parc ar 3 Hydref 3 1933, pan ddechreuodd tân yn ardal Mineral Wells. Fe wnaeth nifer o'r dynion wirfoddoli neu gael ei gymell i ymladd y tân. Lladdwyd 29 o'r dynion i gyd ac anafwyd 150. Cyrhaeddodd diffoddwyr tân proffesiynol a chyfyngu'r tân i 47 acr (19 ha).[12]

Ar 12 Mai 1961, llosgodd tân 814 acr (329 ha) ar ochr ddeheuol y parc. Fe ddinistriodd wyth cartref a difrodi naw arall.[13]

Digwyddodd tân arall ym 1971 yn ardal Toyon Canyon. Ar ôl gweld difrod y tân, ailblannodd Amir Dialameh gyfran ohoni ei hun â llaw. Dros gyfnod o fwy na 30 mlynedd, edrychodd ar ôl yr ardd a adeiladodd yno gyda chymorth gwirfoddolwyr achlysurol.[14]

Ar 8 Mai 2007, llosgodd tanau gwyllt mawr fwy na 817 acr (331 ha), yn dinistrio'r cysegrfan adar, Dante's View, a Captain's Roost, a gorfodi cannoedd o bobl i wacáu. Hwn oedd trydydd tân y flwyddyn.[15] Mae sawl sefydliad lleol, gan gynnwys SaveGriffithPark.org, wedi bod yn gweithio ers hynny gyda swyddogion lleol i adfer y parc mewn ffordd a fyddai o fudd i bawb.[16]

Atyniadau golygu

  • Amgueddfa Autry am Orllewin America
  • Bronson Canyon
  • Theatr Roegaidd
  • Arsyllfa Griffith
  • Amgueddfa Travel Town
  • Merry-Go-Round Parc Griffith[17]
  • Sw Parc Griffith - caewyd ym 1966 ac erbyn hyn fe'i defnyddir fel man cerdded a phicinicio
  • Coeden dreftadaeth - plannwyd coeden binwydd er cof am George Harrison yn 2004 ger yr arsyllfa. Bu farw ar ôl pla chwilod.[18]
  • Safle'r Arwydd Hollywood ar ochr ddeheuol Mount Lee
  • Sw Los Angeles

Yn y cyfryngau golygu

Parc Griffith oedd y lleoliad brysuraf yn Los Angeles ar gyfer ffilmio yn 2011, gyda 346 diwrnod cynhyrchu, yn ôl arolwg gan FilmL.A.. Ymhlith y prosiectau roedd y sioeau teledu Criminal Minds a The Closer.[19]

 
Arsyllfa Griffith
 
Mount Lee gyda'r Arwydd Hollywood

Mae gan Barc Griffith nifer o leoliadau a ddefnyddir yn y cyfryngau, fel:

  • Ffilmiau:
    • Golygfeydd hewlydd yn Sunset Boulevard (1950).
    • Defnyddir yn helaeth yn Rebel Without a Cause (1955) - mae penddelw efydd o James Dean y tu allan i'r arsyllfa.
    • Mynedfa i gyfadeilad NORAD yn WarGames (1983).
    • Y ffilm The Terminator (1984)
    • Man cychwyn Marty McFly wrth gyflymu i 88mph yn Back to the Future (1985).
    • Golygfa "River Road Tunnel" yn Back to the Future Part II (1989).
    • Golygfa yn Throw Momma from the Train (1987).
    • Mynedfa i Toontown yn Who Framed Roger Rabbit (1988).
    • Yn ffilm Short Cuts gan Robert Altman (1993).
    • Y ffilm Van Helsig (2004).
    • Y ffilm Yes Man (2008).
    • Defnyddir yr ardal o amgylch yr arsyllfa yn helaeth yn La La Land (2016).
  • Cerddoriaeth:
    • Fideo cerddoriaeth Adam Lambert ar gyfer "If I Had You".
    • Fideo cerddoriaeth Ellie Goulding ar gyfer "Guns and Horses ".
    • Fideo gerddoriaeth Simple Plan ar gyfer "Untitled (How Could This Happen to Me?)".
  • Teledu
    • Mynedfa'r Batcave yn gyfres Batman yr 1960au.
    • Mae'r arsyllfa yn rhan bwysig o'r episod "Future's End" y gyfres Star Trek: Voyager (1996)
 
Llwybr heicio garw ym Mharc Griffith

Bywyd Gwyllt golygu

Mae un pwma oedolyn yn byw yn y parc.[20] Cipiwyd delwedd ohono (a elwir yn P-22 [21]) ar gamera awtomatig.[22][23][24] Mae arwyddion parhaol ar ddec Arsyllfa Parc Griffith yn rhybuddio am nadroedd rhuglo yn yr ardal gyfagos.[25]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Griffith Park". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-07-28. Cyrchwyd 2019-11-30.
  2. "The 150 Largest City Parks" (PDF). The Trust for Public Land.
  3. Hyperakt (March 10, 2018). "On the Grid : Griffith Park". On the Grid.
  4. "Best Family-Fun Activities At Griffith Park". June 28, 2017.
  5. "Griffith Observatory & Griffith Park Los Angeles". www.travelonline.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-07. Cyrchwyd 2019-11-30.
  6. "Gift To Los Angeles: Capitalist G. J. Griffith Donates as a Christmas Present a Magnificent Park Site" (Volume 81, Number 17, Page 3). Los Angeles Herald. 17 December 1896. Cyrchwyd 17 November 2015.
  7. "Death Summons Noble Woman" Archifwyd 2013-04-29 yn y Peiriant Wayback., Los Angeles Sunday Times, November 13, 1904
  8. Los Angeles City Archives, Piper Tech, Minutes of Meeting of Board of Playground and Recreation Commissioners, Monday, December 18, 1944
  9. Los Angeles City Ordinance 90638
  10. Quitclaim deed, Sherman Company, City of Los Angeles 2049 (Sherman Library and Gardens)
  11. 11.0 11.1 Masumoto, Marie. "Griffith Park" Densho Encyclopedia. Retrieved 13 Jun 2014.
  12. "The Fire of '33" Archifwyd 2019-12-02 yn y Peiriant Wayback., Glendale News-Press, October 1–4, 1993. Accessed May 8, 2007.
  13. A Holocaust Strikes the Hollywood Hills Archifwyd 2007-08-12 yn y Peiriant Wayback., Otto Firgens, Los Angeles City Fire Department
  14. "Amir's Garden - Since 1971". Amirsgarden.org. Cyrchwyd 2016-02-17.
  15. "Fire Forces Griffith Park Evacuations" Archifwyd 2007-05-10 yn y Peiriant Wayback., KNBC.com, 11:27 pm PDT May 8, 2007
  16. "City to repair fire damage in Griffith Park" Ashraf Khalil, Los Angeles Times May 11, 2007
  17. "Griffith Park". City of Los Angeles Department of Recreation & Parks. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-07-22. Cyrchwyd 10 March 2016.
  18. Lewis, Randy (February 20, 2015). "George Harrison tree -- killed by beetles -- to be replanted Feb. 25". Los Angeles Times.
  19. "Top Film Locations for 2011". Los Angeles Times. December 15, 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-12-15. Cyrchwyd 2019-11-30.
  20. Steve Winter, Ghost Cats, National Geographic, December 2013.
  21. "P" for puma, another name for mountain lion, and "22" as he is the 22nd of his species which has been tracked by local National Park Service rangers.
  22. Keefe, Alexa (November 14, 2013) A Cougar Ready for His Closeup Archifwyd 2013-11-14 yn y Peiriant Wayback. National Geographic
  23. "LA's Mountain Lion Is A Solitary Cat With A Knack For Travel". NPR. April 19, 2015. Cyrchwyd 20 April 2015.
  24. Nijhuis, Michelle (April 20, 2015). The Mountain Lions of Los Angeles. http://www.newyorker.com/tech/elements/ballad-p22-mountain-lion-los-angeles.
  25. Hicks, Reva (May 23, 2012). "Rattlesnake Warning: They're Shy, but Dangerous". NBC Southern California (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-03-20. the Southern Pacific rattlesnake [is] found in Griffith Park -- a place where humans, dogs and rattlesnakes share the trails.