Titwod
teulu o adar
(Ailgyfeiriad o Paridae)
Titwod | |
---|---|
Titw Tomos Las (Cyanistes caeruleus) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Paridae Vigors, 1825 |
Genera | |
Poecile |
Adar bach sy'n bwyta pryfed, cnau a hadau yw titwod. Maen nhw'n byw yn Ewrop, Asia, Affrica a Gogledd America.[1] Adar y coetir yw titwod ond maen nhw wedi addasu i barciau a gerddi. Maen nhw'n dodwy hyd at 12 ŵy mewn twll mewn coeden.[1]
Mae'r gwir ditwod yn perthyn i deulu'r Paridae. Mae tua 59 o rywogaethau, yn cynnwys y Titw Tomos Las, Titw Mawr, Titw Penddu, Titw Copog, Titw'r Helyg a Thitw'r Wern.[2] Mae dau deulu arall o ditwod, yr Aegithalidae (megis y Titw Cynffon-hir) a'r Remizidae (megis y Titw Pendil).
Mae'r Titw Barfog yn debyg i'r gwir ditwod ond dydy e ddim yn perthyn yn agos iddyn nhw.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Perrins, Christopher, gol. (2004) The New Encyclopedia of Birds, Oxford University Press, Rhydychen.
- ↑ Gill, F. & D. Donsker (goln.) (2012). IOC World Bird List, Version 3.1: Waxwings to swallows. Adalwyd ar 29 Gorffennaf 2012.