Parth Glas
Defnyddir y term Parth Glas (Saesneg: Blue Zone) i sôn am ardal ddemograffig a/neu ddaearyddol yn y byd lle y mae llawer o bobl yn byw bywydau hir. Daeth y cysyniad o waith demograffig gan Gianni Pes a Michel Poulain,[1] a ddangosodd bod gan dalaith Nuoro yn Sardinia y crynodiad mwyaf o wŷr canmlwydd oed neu hŷn. Wrth i'r ddau ddyn ddechrau ganolbwyntio ar y pentrefi â'r hirhoedledd uchaf, rhoddon nhw gylchoedd cydganol glas ar y map a chyfeirio at yr ardal y tu mewn i'r cylchoedd fel y Parth Glas. Mae Dan Buettner yn enwi sawl man hirhoedlog: Okinawa (Japan); Sardinia (Yr Eidal); Nicoya (Costa Rica); Icaria (Gwlad Groeg); ac ymhlith Adfentyddion y Seithfed Dydd yn Loma Linda, Califfornia. Mae'n cynnig eglurhad dros hyn, wedi'i seilio ar ddata empirig a sylwadau llygad y fynnon, er mwyn esbonio pam mae gan y poblogaethau hyn fywydau iachach a hirach.
Parthau
golyguDyma'r pum ardal sydd gan Buettner yn ei lyfr The Blue Zones: Lessons for Living Longer from the People Who've Lived the Longest:[2]
- Sardinia, yr Eidal (yn enwedig talaith Nuoro ac Ogliastra): daeth un tîm o ddemograffwyr dros ardal o hirhoedledd uchel iawn mewn pentrefi mynyddig lle y mae'r dynion yn cyrraedd eu 100 ar gyfradd anhygoel.[2]
- Ynysoedd Okinawa, Japan: edrychodd tîm arall ar grŵp sydd o blith y bobl fwyaf hirhoedlog yn y byd.[2]
- Loma Linda, Califfornia: astudiodd ymchwilwyr grŵp o Adfentyddion y Seithfed Dydd â rhai o'r bywydau hiraf yng Ngogledd America.[2][3]
- Penrhyn Nicoya, Costa Rica: testun arbrawf ymchwil un o gyrchoedd y Quest Network oedd y penrhyn hon ar 29 Ionawr 2007.[2][4][5]
- Icaria, Gwlad Groeg: cafodd astudiaeth ar ynys Icaria hyd i'r lleoliad â'r ganran uchaf o bobl yn eu 90au ar y blaned – bron i 1 o 3 o bob sy'n cyrraedd yr oedran hwnnw. Ar ben hynny, mae gan Icariaid "gyfraddau canser tua 20 % yn llai, cyfraddau clefyd y galon tua 50 % yn llai a braidd dim dementia".[2][6]
Mae gan drigolion y tri lle cyntaf gyfradd uchel o bobl yn eu cannoedd, llawer llai o'r clefydau sy'n lladd pobl fel arfer mewn ardaloedd eraill o'r byd datblygedig a mwy o flynydoedd o fywyd iach.[7]
Nodweddion
golyguMae trigolion y Parthau Gleision yn rhannu nodweddion ffordd o fyw sy'n cyfrannu at eu hirhoedledd. Mae'r diagram Venn ar y dde yn dangos y chwe nodwedd hon y mae pobl Parthau Gleision Okinawa, Sardina a Loma Linda yn eu rhannu:[8]
- Y teulu – sy'n cael blaenoriaeth popeth arall
- Llai o ysmygu
- Lled-lysieuaeth – heblaw am yn niet Sardinia, mae'r rhan fwyaf o fwyd yn dod o blanhigion
- Ymarfer corff cymhedrol cyson – rhan annatod o fywyd bob dydd
- Cymryd rhan mewn cymdeithas – mae pobl o bob oedran yn rhan weithredol o'u cymdeithas a'u cymunedau
- Bwyta codlysiau
Yn ei lyfr, mae Buettner yn rhoi rhestr o naw rheswm sy'n sôn am ffordd o fyw pobl y Parthau Gleision:[9]
- Ymarfer corff cymhedrol cyson
- Diben i fywyd pobl
- Lleihau straen
- Nifer cymhedrol o galorïau
- Diet wedi'i seilio ar blanhigion
- Yfed alcohol yn gymhedrol, yn enwedig gwin
- Cymryd rhan mewn crefydd neu brofiad ysbrydol
- Cymryd rhan yn y teulu
- Cymryd rhan mewn bywyd cymdeithasol
Llyfryddiaeth
golygu- Buettner, Dan (2012). The Blue Zones, Second Edition: 9 Lessons for Living Longer From the People Who've Lived the Longest. Washington, D.C.: National Geographic. ISBN 978-1426209482. OCLC 777659970. Cyrchwyd August 10, 2014.
- Buettner, Dan (2010). Thrive : finding happiness the Blue Zones way. Washington, D.C.: National Geographic. ISBN 978-1426205156. OCLC 651074951. Cyrchwyd August 10, 2014.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Poulain M.; Pes G.M.; Grasland C.; Carru C.; Ferucci L.; Baggio G.; Franceschi C.; Deiana L. (2004). "Identification of a Geographic Area Characterized by Extreme Longevity in the Sardinia Island: the AKEA study". Experimental Gerontology 39 (9): 1423–1429. doi:10.1016/j.exger.2004.06.016. PMID 15489066.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 Buettner, Dan (21 April 2009) [2008]. "Contents". The Blue Zones: Lessons for Living Longer From the People Who've Lived the Longest (arg. First Paperback). Washington, D.C.: National Geographic. t. vii. ISBN 978-1-4262-0400-5. OCLC 246886564. Cyrchwyd 15 September 2009.
- ↑ Anderson Cooper, Gary Tuchman (November 16, 2005). CNN Transcripts on Living Longer. http://transcripts.cnn.com/TRANSCRIPTS/0511/16/acd.01.html. Adalwyd 2006-08-25. See CNN excerpt on YouTube.
- ↑ "Nicoya, Costa Rica". BlueZones.com. Cyrchwyd 2011-03-04.
- ↑ Dan Buettner (2007-02-02). "Report from the 'Blue Zone': Why Do People Live Long in Costa Rica?". ABC News. Cyrchwyd 2011-03-04.
- ↑ The Island Where People Live Longer', NPR: Weekend Edition Saturday, May 2, 2009.
- ↑ Buettner, Dan: "The Secrets of Long Life.", page 9. National Geographic, November 2005.
- ↑ Power 9™ » Blue Zones – Live Longer, Better: "Blue Zones – Live Longer, Better", Quest Network, 2006.
- ↑ Buettner, Dan (2012-11-06). The Blue Zones, Second Edition: 9 Lessons for Living Longer From the People Who've Lived the Longest. National Geographic Books. ISBN 9781426209499.