Pasgen fab Urien

(550-700)

Yn ôl traddodiad, un o feibion Urien Rheged oedd Pasgen fab Urien (fl. ail hanner y 6g). Fel mab Urien, brenin Rheged yn yr Hen Ogledd, roedd Pasgen yn un o ddisgynyddion y brenin Coel Hen ac yn perthyn i linach y Coelwys.

Ceir sawl enghraifft o'r enw personol 'Pasgen' (Cymraeg Canol Pascen; Hen Gymraeg Pascent < Lladin Pascentius). Ceir enghraifft o'r enw Lladin ar garreg yn eglwys Tywyn sy'n dyddio o'r 5ed neu'r 6g a cheir enw Pasgen fab Gwrtheyrn ar biler yng Nglyn Egwestl (9g).

Ni chofnodir enw Pasgen yn y testun Cymraeg Canol Bonedd Gwŷr y Gogledd, ond ceir llinach ei dad Urien Rheged yno. Dangosir yr achau hyn ei fod yn perthyn i Llywarch Hen. Yn y cylch o gerddi a adnabyddir fel Canu Llywarch Hen, cyfeirir at bennaeth o'r enw Pasgen mewn cyd-destun sy'n awgrymu mai un o feibion Urien Rheged ydyw: gyda'i frodyr Owain ac Elffin brwydrodd yn y Gogledd yn erbyn Dunod fab Pabo Post Prydain a Gwallog fab Llëenog.

Yn y casgliad o draddodiadau Cymreig a Brythonig Trioedd Ynys Prydain, cofnodir 'Pasgen fab Urien' fel un o 'Dri Thrahawg Ynys Prydain', gyda Sawyl Ben Uchel a Rhun fab Einion. Mae triawd arall yn cofnodi ei farch Arfwl Felyn fel un o 'Dri Thom Edystr Ynys Prydain' (tom edystr='pwn-farch' neu pack-horse). Enwir Arfwl Felyn yng Nghanu Llywarch Hen mewn deialog sy'n cyfeirio at Owain, brawd Pasgen.

Yn yr achau cofnodir Gwrfyw a Menrudd fel meibion Pasgen.

Ffynhonnell golygu

  • Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1961; arg. newydd 1991). Gweler trioedd 23 a 43 a'r nodyn ar dud. 487.