Sawyl Ben Uchel
Pennaeth o'r Hen Ogledd oedd Sawyl Ben Uchel (fl. 6g). Roedd yn un o feibion Pabo Post Prydain - pennaeth arall o'r Hen Ogledd a gysylltir â Llanbabo, Môn, yn ôl traddodiad - ac felly'n un o ddisgynyddion y Brenin Coel Hen. Ar sail yr achau Cymreig traddodiadol, mae'n debyg ei fod yn byw yn yr un cyfnod â Urien Rheged a Taliesin.
Sawyl Ben Uchel | |
---|---|
Ganwyd | 488 |
Bu farw | 590 o boddi |
Dinasyddiaeth | sub-Roman Britain |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines |
Swydd | legendary king of Britain |
Tad | Pabo Post Prydain |
Plant | Sanctan, Asaph |
Yn yr achau traddodiadol a geir yn y testun Cymraeg Canol Bonedd Gwŷr y Gogledd, ceir llinach Pabo Post Prydain ac enwau ei feibion:
- Dunod a Cherwydd a Sawyl Ben Uchel meibion Pabo Post Prydain mab Arthwys mab Mar mab Cenau mab Coel.
Mae disgynyddion eraill Coel Hen, sef y Coelwys, yn cynnwys Urien Rheged, Llywarch Hen, Clydno Eidyn, Elidir Lydanwyn, Eliffer Gosgorddfawr a Gwenddolau.
Yn y casgliad o draddodiadau Cymreig a Brythonig Trioedd Ynys Prydain, cofnodir 'Sawyl Ben Uchel mab Pabo Post Prydein' yn un o 'Dri Thrahawg Ynys Prydain', gyda Pasgen fab Urien a Rhun fab Einion. Mae'r enw 'Sawyl' yn deillio o'r enw Lladin Samuelis (Hebraeg: Samuel). Er mai fel 'Sawyl Ben Uchel' y cyfeirir ato yn gyffredinol, mae testun achau cynnar yn ei alw yn 'Sawyl Ben Isel' (Samuil Pennissel) ac mae'n bosibl mai 'Pen Isel' oedd yr epithet gwreiddiol.
Yn ôl Bonedd y Saint roedd Sawyl yn dad i Sant Asaph (Assa) a gafodd gan ei wraig Gwenasedd ferch Rhain. Yn ei Gronicl mae'r hynafiaethydd Elis Gruffydd yn cofnodi fod merch Sawyl wedi priodi Maelgwn Gwynedd, brenin grymusaf Prydain yn hanner cyntaf y 6g. Cyfeiria testun achyddol Gwyddelig at un Samuel Chend-isel (Chend-isel = 'Pen Isel') a briododd Deichter, merch Muiredach Muinderg, brenin Wlster, a dywedir iddynt gael dau fab, sef Sanctan, a ddaeth yn esgob Cil-dá-les a sefydlydd Kilnasantan yn Swydd Ddulyn, a Matóc Ailithir. Mae'r Liber Hymnorum Gwyddelig yn cofnodi fod Sanctan a Matóc wedi dod i Iwerddon o Ynys Prydain.[1]
Ym Mrut y Brenhinedd, cyfeiria Sieffre o Fynwy at Samuil Penissel, sy'n awgrymu ei fod yn dilyn ffynhonnell achyddol gynnar (cf. uchod). Ond mae Sieffre yn lleoli teyrnasiad Sawyl yn y cyfnod cyn-Rufeinig.
Ym Muchedd Sant Cadog mae Sawyl yn frenin trahaus a lyncir mewn cors am wrthwynebu'r sant. Lleolir y Sawyl hwnnw yn ardal Cydweli ac mae'n bosibl mai at frenin arall y cyfeirir neu fod traddodiadau am y Sawyl o'r Hen Ogledd a rheolwr lleol wedi cymysgu dros y canrifoedd. Yn ôl y Fuchedd roedd ganddo lys yn Allt Cunedda, yn Sir Gaerfyrddin a chafodd ei gladdu mewn tomen o'r enw 'Banc Benuchel'.
Ceir cyfeiriad arall at Sawyl mewn cerdd gan Yr Ustus Llwyd (14g).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Peter C. Bartrum (1993), A Welsh Classical Dictionary, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, tt. 580-581.
Prif ffynhonnell
golygu- Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1961; arg. newydd 1991). Gweler Triawd 23, Atodiad II, a'r nodyn ar dud. 506.