Biolegydd, cymdeithasegydd, a chylluniwr trefol Albanaidd oedd Syr Patrick Geddes (2 Hydref 185417 Ebrill 1932).

Patrick Geddes
Patrick Geddes ym 1931.
Ganwyd2 Hydref 1854 Edit this on Wikidata
Ballater Edit this on Wikidata
Bu farw17 Ebrill 1932 Edit this on Wikidata
Montpellier Edit this on Wikidata
Man preswylYr Alban Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Ffrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcynlluniwr trefol, cymdeithasegydd, ecolegydd, botanegydd, dylunydd gwyddonol, athronydd, biolegydd, daearyddwr Edit this on Wikidata
Blodeuodd1896 Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Prif ddylanwadThomas Henry Huxley Edit this on Wikidata
MudiadDadeni'r Alban Edit this on Wikidata
PriodAnna Geddes Edit this on Wikidata
PlantArthur Geddes, Norah Geddes Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Faglor Edit this on Wikidata

Ganed yn Ballater, Swydd Aberdeen, ac astudiodd fioleg yn Llundain dan Thomas Henry Huxley. Bu'n athro sŵoleg ym Mhrifysgol Caeredin o 1880 i 1888, ac yn athro botaneg yng Ngholeg Prifysgol Dundee o 1888 i 1919. Yn Dundee, cyd-ysgrifennodd y gyfrol The Evolution of Sex (1889) gyda'r naturiaethwr John Arthur Thomson. Roedd ganddo ystod eang o ddiddordebau, a datblygodd athroniaeth ei hun o gynllunio trefol, a geir yn ei lyfrau City Development (1904) a Cities in Evolution (1915). Geddes a wnaeth fathu'r termau conurbation (cytref) ac "yr ail chwyldro diwydiannol" wrth gyfeirio at ddatblygiadau mewn trydan a chemegion.

Ym Mandad Palesteina fe ddyluniodd adeilad Prifysgol Hebraeg Jeriwsalem (1919) a chynlluniodd ddinas Tel Aviv. Ar daith i Fecsico, dioddefodd Geddes o bwl o ddallineb, a phenderfynodd felly i ganolbwyntio ar gymdeithaseg gan nad oedd modd iddo gynnal ei arbrofion biolegol. Aeth i'r India a bu'n athro astudiaethau dinesig a chymdeithaseg yn Bombay o 1920 i 1923. Symudodd o'r India i Ffrainc a chyfarwyddodd y Coleg Sgotaidd ym Montpellier. Cafodd ei urddo'n farchog ym 1932, a bu farw y flwyddyn honno ym Montpellier yn 77 oed.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Sir Patrick Geddes. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Mai 2021.

Darllen pellach golygu

  • P. Boardman, Patrick Geddes: Maker of the Future (1957).
  • P. Kitchen, A Most Unsettling Person (1975).
  • V. M. Welter, Biopolis: Patrick Geddes and the City of Life (2002).