Patrick Grady
Gwleidydd o'r Alban yw Patrick Grady (ganwyd 5 Chwefror 1980) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Ogledd Glasgow, yr Alban. Mae Patrick yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin, ble mae'n Llefarydd dros Ddatblygiadau Rhyngwladol.
Patrick Grady | |
| |
Cyfnod yn y swydd 7 Mai 2015 – Mai 2020 | |
Geni | Caeredin, Yr Alban | 5 Chwefror 1980
---|---|
Cenedligrwydd | Albanwr |
Etholaeth | Gogledd Glasgow |
Plaid wleidyddol | Plaid Genedlaethol yr Alban |
Galwedigaeth | Gwleidydd |
Gwefan | patrickgrady.scot |
Fe'i ganwyd yng Nghaeredin a'i fagu yn Inverness.[1] Gweithiodd fel rheolwr eiriolaeth i'r Eglwys Babyddol yn yr Alban, Llundain ac ym Malawi am rai blynyddoedd cyn 2015.
Ymunodd gyda'r SNP yn 1997 pan oedd yn 17 oed, ac ef oedd arweinydd yr ymgyrch dros Annibyniaeth yn ardal Kelvin, Glasgow yn ystod Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014.[2]
Etholiad 2015
golyguYn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[3][4] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Patrick Grady 19610 o bleidleisiau, sef 53.1% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o 41.2 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 9295 pleidlais.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Analysis: SNP bucks trend for privately educated MPs". David Leask. The Herald. 1 Mehefin 2015. Cyrchwyd 1 Mehefin 2015.
- ↑ Braiden, Gerry (18 Medi 2014). "Key battlegrounds: Glasgow". The Herald. Newsquest. Cyrchwyd 11 Mai 2015. Italic or bold markup not allowed in:
|work=
(help) - ↑ Gwefan y BBC; adalwyd 03 Gorffennaf 2015
- ↑ Adroddiad yn y Guardian ar y don o seddi gan yr SNP yn yr Alban