Diwinydd ac athronydd Cristnogol Almaenig-Americanaidd oedd Paul Johannes Tillich (20 Awst 188622 Hydref 1965).

Paul Tillich
Ganwyd20 Awst 1886 Edit this on Wikidata
Starosiedle Edit this on Wikidata
Bu farw22 Hydref 1965 Edit this on Wikidata
Chicago Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth yr Almaen Edit this on Wikidata
AddysgDoethur mewn Athrawiaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Friedrich-Wilhelms-Gymnasium Edit this on Wikidata
Galwedigaethdiwinydd, academydd Edit this on Wikidata
Swyddcaplan Edit this on Wikidata
PriodHannah Tillich Edit this on Wikidata
Gwobr/auCroes Marchog-Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Gwobr Heddwch y Fasnach Lyfrau Almaeneg Edit this on Wikidata

Ganed ef yn Starzeddel, Prwsia, ac astudiodd mewn sawl prifysgol yn yr Almaen gan ennill graddau mewn athroniaeth a diwinyddiaeth. . Fe'i ordeiniwyd yn weinidog Lutheraidd, a gwasanaethodd yn gaplan yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Treuliodd gychwyn ei yrfa academaidd ym mhrifysgolion Berlin a Marburg cyn cael ei benodi'n athro diwinyddiaeth yn Dresden a Leipzig ac yna'n athro athroniaeth a chymdeithaseg yn Frankfurt. Aeth yn alltud o'r Almaen wedi i'r Natsïaid esgyn i rym ym 1933, ac ymsefydlodd yn Unol Daleithiau America. Addysgodd yng Ngholeg Diwinyddol yr Undeb yn Efrog Newydd am 22 mlynedd cyn symud i Harvard ym 1955. Treuliodd dair mlynedd olaf ei oes yn athro diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Chicago.

Dylanwadwyd ar Tillich yn gryf gan ei brofiadau ar Ffrynt y Gorllewin, ac aeth ati i herio rhagdybiaethau ac ymhoniadau cymdeithasol a chrefyddol ei wareiddiad, ac archwilio diwylliant cyfoes y Gorllewin trwy ddrychau diwinyddiaeth ac athroniaeth. Yn ystod ei yrfa yn yr Almaen, amlinellai ei "ddiwnyddiaeth diwylliant", gan ymdrin â'r ffydd hunanamlwg, anymwybodol sydd ymhlyg mewn systemau meddwl a strwythurau cymdeithasol sydd yn seciwlar i bob golwg.

Bywyd cynnar ac addysg (1886–1912)

golygu

Ganed Paul Johannes Tillich yn Starzeddel (bellach Starosiedle, Gwlad Pwyl), pentref yn nhalaith Brandenburg, Prwsia, yng nghyfnod Ymerodraeth yr Almaen. Treuliodd ei fachgendod yn Bad Schönfliess (bellach Trzcińsko-Zdrój), i ddwyrain Afon Elbe, lle'r oedd ei dad, Johannes Tillich, yn weinidog Lutheraidd ac arolygydd esgobaethol yn eglwys Brotestannaidd Prwsia.

Astudiodd Tillich ym Mhrifysgol Berlin o 1904 i 1905, ac ym Mhrifysgol Tübingen ym 1905, cyn treulio'r cyfnod mwyaf o'i addysg ym Mhrifysgol Halle. Yno bu'n rhaid iddo gydymffurfio ag athrawiaeth yr Eglwys Lutheraidd, ar sail y dogfennau enwadol sefydledig, yn groes i'r rhyddfrydiaeth ddiwinyddol ac empiriaeth wyddonol a fu ar y blaen ym myd academaidd yr Almaen ar droad y ganrif.

Cyflawnodd Tillich ym Mhrifysgol Breslau ym 1911 ei ddoethuriaeth, ar bwnc athroniaeth Friedrich Schelling. Enillodd ei drwydded raddedig ddiwinyddol o Halle ym 1912 gan gwblhau traethawd arall ar Schelling, Mystik und Schuldbewusstsein in Schellings philosophischer Entwicklung ("Cyfriniaeth ac Ymwybyddiaeth o Euogrwydd yn Natblygiad Athronyddol Schelling").[1]

Gweinidogaeth (1912–19)

golygu

Wedi iddo dderbyn ei drwydded ddiwinyddol o Halle, ordeiniwyd Tillich yn weinidog yn yr Eglwys Lutheraidd Efengylaidd ym 1912.

Yn Hydref 1914, ychydig fisoedd wedi cychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf, ymunodd Tillich â Byddin yr Almaen a gwasanaethodd yn gaplan. Treuliodd y rhyfel yn y ffosydd ar Ffrynt y Gorllewin. Dioddefai drawma o'r brwydro ("siel-sioc") ac aeth i'r ysbyty teirgwaith o'r herwydd, a gwobrwywyd iddo'r Groes Haearn am ddewrder ar faes y gad.


Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Paul Tillich. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 25 Hydref 2023.