Pedwarawd Amadeus
Pedwarawd llinynnol Prydeinig oedd Pedwarawd Amadeus (Saesneg: Amadeus Quartet).
Roedd tri o'i aelodau, Norbert Brainin (feiolinydd cyntaf), Siegmund Nissel (ail feiolinydd) a Peter Schidlof (fiolydd), yn ffoaduriaid Iddewig ifainc o Fienna a fu'n cyfarfu â'i gilydd mewn gwersyll caethiwo ar Ynys Manaw. Ffurfiodd y pedwarawd ym 1947 gyda'r sielydd Martin Lovett, a pherfformiodd yn gyhoeddus yn gyntaf yn Llundain ar 10 Ionawr 1948. Daeth y pedwarawd i ben yn sgil marwolaeth Schidlof ym 1987.
Daeth enw'r pedwarawd o enw canol Wolfgang Amadeus Mozart. Rhoddwyd hefyd yr enw the Wolf Gang ar y grŵp.[1] Recordiodd tua 200 o berfformiadau, gan gynnwys holl bedwarawdau Mozart, Ludwig van Beethoven a Johannes Brahms.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Ayto, John a Crofton, Ian. Brewer's Dictionary of Modern Phrase and Fable, ail argraffiad (Llundain, Weidenfeld & Nicolson, 2006), t. 23.
- ↑ (Saesneg) Amadeus Quartet. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Medi 2014.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Pedwarawd Amadeus ar wefan AllMusic
- (Saesneg) Pedwarawd Amadeus ar wefan y BBC