Pelydriad corff du
Pelydriad corff du yw'r sbectrwm o egni electromagnetig a ddaw o wrthrych sy'n anrhyloew ac nad sy'n adlewyrchu (rhywbeth ffisegol haniaethol - ond sy'n disgrifio i raddau y rhan fwyaf o wrthrychau'r bydysawd)[1][2]. Mae'r sbectrwm di-dor yma yn dibynnu yn unig ar dymheredd wyneb y gwrthrych. Enghraifft pob dydd yw lliw sbectrwm yr haul. Mae ei wyneb (y ffotosffer) ar dymheredd o 5778 K[3] yn pelydru casgliad o donfeddi electromagnetig (o belydrau-x, trwy'r uwchfioled, y sbectrwm weladwy a'r isgoch, i donfeddi radio) sy'n ymddangos i'n llygaid (a'n hymennydd) ni yn wyn. Enghraifft arall yw lliw darn o haearn yn ffwrnais yr of. Wrth ei gynhesu mae lliwiau'r allyriad yn newid o'r anweledig i goch, i oren, i felyn ac yna i wyn (wynias). Mae pob un o'r rhain yn gymysgedd o'r sbectrwm electromagnetig, ond sy'n cynnwys mwy o fewnbwn tonfedd hir ("glasach") wrth gynhesu. Wrth gyrraedd tua 600°C mae'r coch tywyll yn ymddangos. Tua 2000°C yw'r poethaf i ffwrnais gyffredin a gwelir yr haearn yn wynias. Gellir canfod anifeiliaid (gan gynnwys pobol - ar tua 33°C) mewn tywyllwch trwy ddefnyddio offer sy'n synhwyro'r tonfeddi isgoch (anweledig) sydd â thonfedd byrach na goleuni gweladwy.
Mae lliw'r haearn poeth yn arwydd o'i dymheredd - yn ôl deddfau pelydriad corff du. | |
Enghraifft o'r canlynol | cysyniad |
---|---|
Math | ymbelydredd |
Ym myd seryddiaeth mae modd mesur tymheredd sêr trwy dadansoddi sbectrwm eu allyriad. Mewn sêr poethach na'r haul (5778 K) mae'r lliw glas yn ymddangos (sy'n boethach na "gwyn".)
Bathwyd y term corff du gan Gustav Kirchhoff (1824-1887)[4] o Brwsia yn 1860. Yn aml cysylltir y syniad gyda'r Almaenwr Max Planck (1858-1947)[5] a ddyfeisiodd hafaliad mathemategol yn 1900 i'w disgrifio - a thrwy hynny agor y drws i ddarganfyddiad y cwantwm.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Farina, Dave (20 Ebrill 2017). "Blackbody Radiation and the Ultraviolet Catastrophe". You Tube. Cyrchwyd 5 Mai 2021.
- ↑ "Blackbody radiation". Asiantaeth Ofod Ewrop (ESA). 2019. Cyrchwyd 5 Mai 2021.
- ↑ Faurobert, M.; et al (5 Mai 2021). "A new spectroscopic method for measuring the temperature gradient in the solar photosphere". Astronomy & Astrophysics 642: A186. https://www.aanda.org/articles/aa/full_html/2020/10/aa37736-20/aa37736-20.html.
- ↑ J. J. O'Connor, E. F. Robertson (2002). "Gustav Robert Kirchhoff". Prifysgol St. Andrews, Yr Alban. Cyrchwyd 5 Mai 2021.
- ↑ J J O'Connor, E F Robertson (Hydref 2003). "Max Karl Ernst Ludwig Planck". Prifysgol St Andrews, Yr Alban. Cyrchwyd 5 Mai 2021.