Llynpenmaen

pentref yng Ngwynedd
(Ailgyfeiriad o Penmaenpool)

Mae Llynpenmaen (Saesneg: Penmaenpool) yn bentrefan bychan ar ochr ddeheuol aber yr Afon Mawddach yng nghymuned Dolgellau, Gwynedd. Roedd gorsaf reilffordd yma, ac erys olion yma o hyd - y bocs signalau a signal ymysg pethau eraill.

Llynpenmaen
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDolgellau Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.7472°N 3.9361°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH693184 Edit this on Wikidata
Cod postLL40 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Digwyddai damwain erchyll yma tua diwedd y 1960au pan darawodd cwch pleser yn orlawn o ymwelwyr yn erbyn y bont ar ôl teithio yno o Abermaw ac fe gollwyd y rhan fwyaf eu bywydau. Oherwydd hyn, ataliwyd yr holl dripiau cwch i fyny'r afon oedd wedi bod yn atyniad i ymwelwyr ers can mlynedd.

Mannau o ddiddordeb golygu

 
Tollbont Llynpenmaen
  • Tollbont Llynpenmaen - tollbont bren a adeiladwyd ym 1879 i gymryd lle'r groesfan fferi oedd yno. Mae wedi'i gofrestru gyda Cadw ac yn rhestredig Gradd II.
 
Tollbont Llynpenmaen, hen focs signalau a gwesty George III (dde).
  • Roedd gwesty George III yn ddau adeilad yn wreiddiol: siandler llongau, yn gwasanaethu'r diwydiant cychod, a thafarn. Mae'n dyddio o tua 1650 ac mae'n rhestredig Gradd II.

Yn ôl pob sôn, ysgrifennodd Gerard Manley Hopkins y gerdd o'r enw Penmaen Pool yn y llyfr ymwelwyr.

Cyfeiriadau golygu