Gwrthryfel y gweithwyr ym Merthyr Tudful

(Ailgyfeiriad oddi wrth Terfysgoedd Merthyr)

Ym 1831 daeth rhai flynyddoedd o aflonyddwch ymysg gweithwyr Merthyr Tudful a'r cyffiniau at uchafbwynt treisgar a adnabyddir fel Gwrthryfel Merthyr neu Gwrthryfel y gweithwyr ym Merthyr Tudful (hefyd, Terfysg Merthyr).

Merthyr Rising.jpg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynol gwrthryfel Edit this on Wikidata
Dyddiad 1831 Edit this on Wikidata
Lleoliad Merthyr Tudful Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Clawr y nofel Gwrthryfel Merthyr (2004) gan Janet Davies.

CefndirGolygu

Erbyn troad y 19eg ganrif roedd cymdeithasau gwleidyddol wedi cael eu sefydlu yn ardal Merthyr lle roedd cyfle i’r gweithwyr drafod cwynion  yn erbyn amodau byw, y sustem dryc, cyflogau isel,  a chefnogi’r galw am ddiwygio’r Senedd.  Yn y clybiau yma roedd gwaith Thomas Paine am syniadau democrataidd y Chwyldro Ffrengig yn cael eu darllen. Roedd radicaliaeth ym Merthyr yn cael ei fwydo gan syniadau tebyg ac roedd digwyddiadau’r Chwyldro Ffrengig a Rhyfel Annibyniaeth America wedi bod yn ysbrydoliaeth i geisio gwell byd i’r gweithiwr.

Yn erbyn cefndir y newidiadau diwydiannol a oedd yn digwydd yng Nghymru roedd y dosbarth gweithiol yn gorfod ymdopi gyda amodau gwaith a byw anodd eithriadol. Roedd graddfa y newidiadau a ddigwyddodd yn ardal Merthyr o fod yn ardal wledig, amaethyddol ganol y 18fed ganrif i fod yn dref ddiwydiannol, erbyn dechrau’r 19eg ganrif wedi achosi nifer o broblemau ym mywyd y dosbarth gweithiol. Un ohonynt oedd nad oedd gan tref ddiwydiannol newydd Merthyr Aelod Seneddol i’w chynrychioli yn y Senedd a doedd dim pleidlais gan y dosbarth gweithiol. Er mai hi oedd tref fwyaf Cymru erbyn y 1830au roedd y ffaith nad oedd llais gwleidyddol ganddi yn dangos mor anheg ac anemocrataidd oedd y system wleidyddol. Erbyn 1831, roedd dros 30,000 o bobl yn byw yno gyda’r rhan fwyaf o bobl yn dod i mewn i’r ardal i weithio yn y gweithfeydd haearn.

Roedd caledi eu hamgylchiadau wedi creu ymwybyddiaeth ymhlith gweithwyr bod ganddynt eidentiti eu hunain a bod ganddynt gwynion penodol roeddent eisiau eu datrys, er enghraifft, amodau byw gwael gyda thai rhad wedi eu hadeiladu o dywodfaen ac wedi eu hadeiladu yn agos at ei gilydd heb fawr o feddwl i gynllun. Roedd y tai yn orlawn ac yn aml mewn ardaloedd gor-boblog, heb systemau dwr glan ac roedd gweld tomenni o garthffosiaeth ar y strydoedd yn olygfa gyffredin. Roedd bobl hefyd yn byw mewn ‘seleri’ yn rhai o’r tai salaf eu safon ac roedd afiechydon fel diciau a cholera yn gyffredin ymhlith y boblogaeth.

Ynychwanegol at yr amodau byw anodd roedd yr amodau gwaith yn beryglus gyda damweiniau yn ddigwyddiadau rheolaidd. Roedd nwyon gwenwynig y ffwrneisi yn achosi problemau iechyd difrifol ac roedd plant, menywod a dynion yn cael eu caethiwo gan y sifftiau hir a ddisgwylid iddynt weithio. Roedd gafael y meistri haearn ar y gweithwyr yn ymestyn hefyd i’r ffordd roeddent yn cael eu talu, sef drwy tocynnau yn hytrach na arian pharod. Roedd yn rhaid gwario’r tocynnau hyn yn y siop dryc ble roedd prisiau nwyddau yn uchel ac arweiniwyd y gweithwyr a’u teuluoedd i ddyled oherwydd hynny. Roedd y rheini a oedd yn methu talu eu dyledion yn y siop yn cael eu dwyn gerbron Llys y Deisyfion a fyddai’n gorchymyn bod bailiff yn mynd a chelfi o dŷ y dyledwr a oedd yn cyfateb i’r ddyled.

Yn wyneb yr amgylchiadau anodd yma roedd gweithwyr Merthyr wedi cael eu radicaleiddio a’u gorfodi felly i sylweddoli bod rhaid cymryd camau i ddatrys y problemau yma. Byddai rhaid felly protestio a chodi llais er mwyn tynnu sylw at eu cwynion gan nad oedd llais yn y Senedd ganddynt.

CychwynGolygu

Trwy gydol mis Mai 1831, gorymdeithiodd glöwyr ac eraill oedd yn gweithio i William Crawshay ar strydoedd Merthyr Tudful, i wrthdystio yn erbyn diweithdra a gostyngiad yn eu cyflogau ac i alw am ddiwygiadau. Yn raddol, lledaenodd y brotest i ardaloedd diwydiannol cyfagos, ac erbyn diwedd mis Mai roedd yr ardal gyfan yn gwrthryfela. Dyma oedd y tro cyntaf i faner goch chwyldro gael ei chyhwfan fel mynegiant o rym dosbarth gweithiol.[1]

Anrheithiodd y gwrthryfelwyr lys y dyledwyr a'r nwyddau oedd wedi eu casglu. Dinistrwyd llyfrau ag ynddynt manylion y dyledwyr. Gwaeddwyd 'Caws a bara' ac 'I lawr â'r Brenin'.

DigwyddiadauGolygu

Ar ddechrau Mehefin 1831, gorymdeithiodd y protestwyr i'r pyllau glo lleol, a darbwyllo'r glöwyr i adael eu gwaith ac ymuno â'r brotest. Yn y cyfamser, roedd llywodraeth San Steffan wedi rhoi gorchymun i'r fyddin ymyrryd, a daeth aelodau o Ucheldirwyr Argyll a Sutherland i ail-sefydlu'r drefn. Erbyn hynny, roedd y dorf yn rhy fawr i'w gwasgaru, felly gorchmynwyd i'r milwyr amddiffyn y Castle Inn, lle'r oedd cyflogwyr lleol ac ynadon yn cynnal cyfarfod. Pan glywodd y gweithwyr am y cyfarfod, aethont yna i ofyn am leihad ym mhris bara a chynnydd i'w cyflogau. Gwrthodwyd eu cais, a chynghorwyd i bobl ddychwelyd i'w cartrefi.

Pan wrthododd y dorf wasgaru, dechreuodd y milwyr eu saethu, a lladdwyd sawl un. Meddiannodd y dorf y dref wedyn, gan sefydlu gwarchaeau ar y ffyrdd. Datarfogwyd Gwŷr Meirch Abertawe wrth iddyn gyrraedd o Aberdâr, ac anfonwyd negeseuon i drefi a phentrefi cyfagos er mwyn gofyn i'r bobl ymuno â'r gwrthryfel.

CanlyniadauGolygu

 
Baner yn coffáu'r gwrthryfel, yn cael ei chwifio ym Merthyr yn 2012.

Erbyn 7 Mehefin 1831, ad-enillasai'r awdurdodau reolaeth ar y dref trwy drais. Arestiwyd 26 o bobl a'u rhoi ar brawf am gymryd rhan yn y gwrthryfela. Dedfrydwyd rhai i garchar ac eraill i'w halltudio i Awstralia; a dedfrydwyd dau - Dic Penderyn a Lewsyn yr Heliwr - i farwolaeth, y naill am drywanu milwr o'r enw Donald Black yn ei goes a'r llall am ysbeilio.

Atalwyd cosb Lewsyn yr Heliwr pan dystiodd un o swyddogion yr heddlu y bu i Lewsyn ei amdiffyn o'r dorf, ond roedd llywodraeth San Steffan, dan arweiniad yr Arglwydd Melbourne, yn benderfynol y dylai o leiaf un gwrthryfelwr farw fel enghraifft. Ond roedd pobl Merthyr Tudful wedi ei hargyhoeddi nad Dic Penderyn oedd yn gyfrifol am drywanu'r milwr, a llofnododd 11,000 o bobl ddeiseb yn galw am ryddhau Dic. Gwrthododd y llywodraeth, ac fe'i grogwyd ym marchnad Caerdydd ar 31 Awst, 1831. Ym 1874 daeth yn glir mar dyn o'r enw Ianto Parker oedd wedi trywanu Donald Black,[2] ac yna ffoi i America, a bod y tyst James Abbott wedi dweud celwyddau dan llw, ar orchymun yr Arglwydd Melbourne er mwyn sicrhau dedfryd Dic Penderyn.


CyfeiriadauGolygu

  1. http://www.100welshheroes.com/cy/biography/dicpenderyn. Adalwyd 20 Gorffennaf, 2014
  2. Sekar, Satish (2012). The Cardiff Five: Innocent Beyond Any Doubt. Waterside Press, tud. 182