Ed Holden
Mae Ed Holden (ganed tua 1984)[1] neu i roi ei enw llwyfan, Mr Phormula yn rapiwr, bît-bocsiwr, perfformiwr yng Nghymru ac y Deyrnas Unedig. Mae'n rhedeg ei stiwdio recordio ei hun, Stiwdio Panad[2] yn Llanfrothen, Gwynedd.
Ed Holden | |
---|---|
Ffugenw | Mr Phormula |
Ganwyd | 1980s Llanelwy |
Man preswyl | Llanfrothen |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | rapiwr, beatboxer |
Gwefan | http://www.mrphormula.com/ |
Bywyd cynnar
golyguGanwyd Holden yn Llanelwy a magwyd yn Llanerchymedd ac yna Amlwch, Ynys Môn ac aeth i Ysgol Syr Thomas Jones.[angen ffynhonnell] Yn 21 oed rhoddodd gorau i'w swydd mewn canolfan alwadau er mwyn mynd yn gerddor, cynhyrchydd a pherfformiwr llawn amser. Bydd hefyd yn rhoi gwersi rapio a bît bocsio mewn ysgolion a chlybiau.
Gyrfa
golyguMae Holden/Mr Phormula wedi chwarae rhan flaenllaw yn y Sôn Roc Gymraeg ers canol yr 2000au.
Dechreuodd ei ddiddordeb yn y Sîn Roc Gymraeg pan oedd yn 17 oed a cyflwynodd Aaron Elias o'r grŵp Pep Le Pew, gasét o fiwsig Cymraeg iddo. Dyma oedd y tro cyntaf i Holden glywed rap yn y Gymraeg. Yn ôl wefan Llywodraeth Cymru fel rhan o ymgyrch Dydd Miwsig Cymru 2018, "Wnes i wrando ar y cassette a clywed rap yn yr iaith Gymraeg am y tro cynta’ erioed, wow! Felly wnes i ymuno efo’r band a dyna be gychwynodd fy ngyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth Cymraeg."[3] Wedi'r profiad yma, ymunodd Holden gyda grŵp Pep le Pew o Borthmadog ar ddechrau'r Mileniwm.
Roedd yn aelod o grŵp rap chwaraeus, Genod Droog oedd yn cynnwys unigolion sydd wedi mynd ymlaen i chwarae rhan amlwg ym mywyd cerddoriaeth a diwylliant Cymru gan gynnwys y prifardd Aneirin Karadog, y cyflwynydd a chynhyrchydd radio, Dyl Mei, a'r cyflwynydd ar Radio Cymru, Gethin Evans.
Mae hefyd wedi perfformio efo Derwyddon Dr Gonzo - band boblogaidd a dylwanwadol arall.
Ers diwedd y Genod Droog, mae ef wedi parhau i berfformio a chyfansoddi. Ef yw pencampwr Lwpio Cymru ar hyn o bryd, ac yn 2013, bu’n is-bencampwr Lwpio’r DU.
Yn 2012 daeth y person gyntaf i berfformio yn y Gymraeg yng ngwobrau MOBO yn y Liverpool Arena.[1]
Stiwdio Panad
golyguSefydlodd Holden Stiwdio Panad yn Llanfrothen. Mae Stiwdio Panad yn fan cynhyrchu i ddeunydd gwreiddiol Holden a “Panad Productions”.
Disgograffi
golygu- 2023 – Mr Phormula – AWDL (Artist With Dual Language) albwm – "another landmark in Welsh hip hop"[4]
- 2022 – Mr Phormula / Lord Willin – Roads (sengl) – ar label Bard Picasso[5]
- 2017 – Mr Phormula – Llais / Voice
- 2017 – Mr Phormula – Cwestiynau / Questions (sengl)
- 2016 – Mr Phormula – Llwybrau EP
- 2016 – Mr Phormula – Un Ffordd EP
- 2014 - Mr Phormula – Be ti’n Gweld EP
- 2014 - Mr Phormula – Cymud (albuwm)
- 2013 - Sleepbeggar – Me leaving me EP (prosiect ar y cyd)
- 2012 - Mr Phormula – Minority EP
- 2011 - Y Bwgan – Recordiau coch (cynhyrchu trac a chasgliad)
- 2010 - Mr Phormula – Forward thinking albwm
- 2009 - Pen-Ta-Gram – Twisted Tongues abwm (prosiect ar y cyd)
- 2009 - Barddoniaeth boced-din – Raps heddiw publication
- 2008 - Genod Droog – Ni oedd Y Genod Droog albwm
- 2008 - Dybl L - Gesha pwy sy nôl?' (prosiect ar y cyd)
- 2008 - Y Diwygiad – HYMN 808 albwm (prosiect ar y cyd)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Rapper Mr Phormula to make history with first Welsh rap at MOBO awards. Wales Online (21 Hydref 2012).
- ↑ http://www.mrphormula.com/hafan/
- ↑ http://cymraeg.gov.wales/DyddMiwsigCymru/Cyfweliadau/ed-holden/?lang=cy[dolen farw]
- ↑ (Saesneg) Williams, Tomos (26 Gorffennaf 2023). AWDL by Mr Phormula - Review. Wales Arts Review. Adalwyd ar 11 Awst 2024.
- ↑ Sengl gyntaf Mr Phormula ar label newydd. Y Selar (20 Chwefror 2022). Adalwyd ar 11 Awst 2024.