Peredur
Cymeriad a gysylltir a llys y brenin Arthur yn chwedl Gymraeg Peredur fab Efrawg yw Peredur. Fel Perceval yn Ffrangeg a Percival yn Saesneg, mae'n gymeriad pwysig mewn chwedlau Arthuraidd. Yn y rhain, mae'n amlwg yn yr ymchwil am y Greal Santaidd.
Math o gyfrwng | bod dynol a all fod yn chwedlonol, ffigwr chwedlonol, cymeriad llenyddol |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn chwedl Peredur fab Efrawg mae Peredur yn fab i Iarll "Efrog". Mae'n bosibl fod hyn yn ffordd o ddweud ei fod yn frenin ar deyrnas Elmet yn yr Hen Ogledd (roedd tiriogaeth Elmet yn cyfateb yn fras i Swydd Efrog heddiw). Lladdwyd yr iarll a chwech brawd Peredur wrth frwydro, ac oherwydd hynny mae ei fam yn ei fagu heb wybodaeth o arfau. Mae'n cyfarfod tri marchog, ac o ganlyniad mae'n marchogaeth ar hen geffyl esgyrniog gyda basged yn lle cyfrwy ac yn mynd i lys Arthur. Yno, mae'n cyfafod Cai, sy'n ei wawdio ac yn ei yrru ar ôl marchog sydd wedi sarhau'r frenhines Gwenhwyfar. Gorchfyga Peredur y marchog, ei ladd a chymeryd ei farch a'i arfau.
Mae wedyn yn cael cyfres o anturiaethau, gan yrru'r marchogion y mae wedi eu gorchfygu i lys Arthur. Mae'n cyfarfod a dau ewythr iddo; mae'r cyntaf yn ei rybuddio i beidio a holi ystyr unrhyw beth a wêl, tra mae'r ail yn dangos pen wedi ei dorri iddo. Treulia Peredur bedair blynedd ar ddeg gydag ymerodres Caergystennin.
Yn y fersiynau Ffrangeg a Saesneg, dywed rhai awduron ei fod yn fab i'r brenin Pellinore. Disgrifir ef fel Cymro yn y rhamantau hyn, a cheir yr un hanes am ei fam yn ei fagu heb wybodaeth o arfau. Yn Perceval, le Conte du Graal gan Chrétien de Troyes mae'n cyfarfod y Brenin-Bysgotwr sydd wedi ei anafu, ond nid yw'n gofyn y cwestiwn a fyddai wedi ei iachau. Pan ddaw i wybod am hyn, mae'n ymdynghedu i gael hyd i gastell y Greal,
Yn y fersiynau diweddarach o hanes y Greal, Galahad, mab Lawnslot yw'r prif arwr, ac ef sy'n llwyddo i gyrraedd y Greal, er bod Peredur yn parhau yn gymeriad pwysig.
Ceir cyfeiriad at Frwydr Arfderydd am y flwyddyn 537 yn yr Annales Cambriae, lle dywedir ei bod yn frwydr rhwng Gwenddolau a meibion Eliffer Gosgorddfawr. Mewn cofnod diweddarach, mae'r Annales yn enwi meibion Eliffer fel Gwrgi a Peredur. Efallai mai'r Peredur yma oedd sylfaen y cymeriad Arthuraidd. Fel Peredur fab Efrog mae'n perthyn i'r Hen Ogledd ac yn un o ddisgynyddion y brenin Coel Hen.
Llyfryddiaeth
golygu- Glenys W. Goetinck (gol.), Historia Peredur vab Efrawc (Gwasg Prifysgol Cymru, 1976).