Peter Benenson
Peter Benenson (31 Gorffennaf 1921 – 25 Chwefror 2005) sefydlodd Amnest Rhyngwladol yn 1961 ar ôl darllen erthygl am garcharu dau fyfyriwr ym Mhortiwgal a oedd wedi rhoi llwnc destun i 'Ryddid'.
Peter Benenson | |
---|---|
Ganwyd |
31 Gorffennaf 1921 ![]() Llundain ![]() |
Bu farw |
25 Chwefror 2005 ![]() Achos: niwmonia ![]() Rhydychen ![]() |
Dinasyddiaeth |
y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
cyfreithiwr, gwleidydd, gweithredydd dros hawliau dynol ![]() |
Swydd |
Secretary-General of Amnesty International ![]() |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol |
Y Blaid Lafur ![]() |
Mam |
Flora Solomon ![]() |
Gwobr/au |
Dyneiddiwr y Flwyddyn ![]() |
Ymgyrch blwyddyn oedd ganddo mewn golwg i ddechrau ond fe dyfodd yn fudiad gyda mwy na 1.8 miliwn o aelodau erbyn heddiw
Roedd yn ŵyr i Grigori Benenson, bancwr Rwsieg-Iddewig ac yn fab i Flora a John Solomon.
Ar ôl cael gwersi preifat gan W. H. Auden cafodd ei addysg yn Eton a Phrifysgol Rhydychen. Mor ifanc a 16 mlwydd oed bu'n ymgyrchu yn ei ysgol am gefnogaeth i helpu plant amddifad gweriniaethwyr Rhyfel Cartref Sbaen.
Peidiodd Benenson a bod yn arweinydd Amnest ar ôl i ymchwiliad annibynnol fethu a chadarnhau ei gred fod heddlu cudd Prydeinig yn dod yn aelodau o'r mudiad.