Pierre Abélard

cyfansoddwr a aned yn 1079
(Ailgyfeiriad o Petrus Abaelardus)

Athronydd ysgolaidd, awdur yn yr iaith Ladin a chyfansoddwr o Lydaw oedd Pierre Abélard (Lladin: Petrus Abaelardus, 107921 Ebrill 1142). Daeth yn enwog ledled Ewrop yn yr Oesoedd Canol fel un o sefydlwyr diwinyddiaeth sgolastigiaeth ac oherwydd ei gariad at Héloïse.

Pierre Abélard
GanwydPierre Abélard Edit this on Wikidata
1079 Edit this on Wikidata
Ar Palez Edit this on Wikidata
Bu farw21 Ebrill 1142 Edit this on Wikidata
Chalon-sur-Saône Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Ffrainc, Ffrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • École cathédrale de Paris Edit this on Wikidata
Galwedigaethdiwinydd, athronydd, cyfansoddwr, ieithydd, bardd, hunangofiannydd, rhesymegwr, ysgrifennwr, crefyddwr Edit this on Wikidata
Swyddabad Edit this on Wikidata
Adnabyddus amSic et Non, Dialectica Edit this on Wikidata
MudiadCyfnod clasurol, Ysgolaeth, enwoliaeth Edit this on Wikidata
PriodHéloïse d’Argenteuil Edit this on Wikidata
Abélard a Héloïse, darlun canoloesol

Bywgraffiad golygu

Ganed Abélard ger Nantes yn 1079. Astudiodd dan yr athronydd Enwoliaethol Roscellinus ac wedyn aeth i astudio ym Mharis dan Guillaume de Champeaux. Gwrthododd athroniaeth realaeth ei athro mewn cyfres o ddadleuon a enillodd fri iddo fel athronydd. Cafodd ei apwyntio yn athro a thrôdd at astudio diwinyddiaeth ; oherwydd ei ynglyniad wrth dulliau rhesymegol cafodd ei gyhuddo o hyrwyddo heresi.

Syrthiodd Abélard mewn cariad â lleian ifanc o'r enw Héloïse (1101 - 1164), nith Fulbert, un o ganoniaid Notre-Dame de Paris. Dysgai Abélard y ferch ifanc yn nhŷ Fulbert. Cawsant blentyn a phriodasant yn ddirgel. Ond pan ddaeth y carwriaeth anghyfreithlon i'r golwg dialodd Fulbert ar Abélard trwy logi band o droseddwyr i'w ddal a thorri ei geilliau. Erlidwyd Abélard gan yr awdurdodau eglwysig hefyd a bu rhaid iddo ffoi am loches o fynachlog i fynachlog, yn cynnwys Abaty Sant Gildas yn Llydaw (1128-1134). Roedd Sant Bernard yn arbennig o feirniadol o'i waith ac yn ei gyhuddo o fod yn heretig. Treuliodd ddau gyfnod yn y carchar a gorffenodd ei ddyddiau yn Abaty Cluny, lle cafodd nawdd ac amddiffyn gan yr abad caredig.

Fel llenor, mae Abélard yn enwog am y gyfres o lythyrau rhyngddo â Hélöise, a apwyntiwyd ganddo yn abades lleiandy Paraclete, a sefydlwyd ganddo ei hun.

Gwaith golygu

  • Theologia (yn y llyfr hwn, Abelard yw'r cyntaf i ddefnyddio'r gair theologia (diwinyddiaeth)
  • Dialectica
  • Historia Calamitatum ('Hanes y Anffodau')
  • Six planctus (cerddoriaeth)
  • Ymddiddan rhwng athronydd, Iddew a Christion (1142)

Diwinyddiaeth golygu

 
Tudalen o'r Apologia Ne juxta Boethianum
  • Theologia Summi Boni
  • Theologia Christiana
  • Theologia Scholarium
  • Sic Et Non
  • Ethica sive Scito te ipsum
  • Dialogus inter Philosophum, Christianum et Iudaeum
  • Soliloqium
  • Commentaria In Epistolam Pauli ad Romanos
  • Problemata Heloissae
  • Apologia Ne juxta Boethianum
  • Confessio fidei Universis
  • Confessio fidei ad Heloisam
  • Sermones - Epistola introductoria Abaelardi
  • Expositio Orationis Dominicae
  • Expositio Symboli Apostolorum
  • Expositio Symboli Athanasii
  • Expositio in Hexaemeron

Athroniaeth golygu

  • Dialectica
  • De intellectibus
  • Glossae super Topica
  • Introductiones parvulorum
  • Logica Ingredientibus
  • Logica Nostrorum Petitioni
  • De generibus et speciebus
  • Sententie secundum Magistrum Petrum

Cyfeiriadau golygu