Phil Hopkins

chwarewr rygbi'r unded

Roedd Phil Hopkins (31 Ionawr 1880 - 26 Medi 1966) [1] yn asgellwr rygbi'r undeb rhyngwladol Cymreig a chwaraeodd rygbi clwb i Abertawe. Enillodd bedwar cap i Gymru a chafodd dylanwad pwysig ar y tîm a enillodd Y Goron Driphlyg ym mhencampwriaeth 1909.

Phil Hopkins
Ganwyd31 Ionawr 1880 Edit this on Wikidata
Pontardawe Edit this on Wikidata
Bu farw26 Medi 1966 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Abertawe Edit this on Wikidata
SafleAsgellwr Edit this on Wikidata

Bywyd personol golygu

Ganwyd Philip Lewis Hopkins yn Llangyfelach, yn drydydd blentyn i Evan Hopkins, swyddog adfer, a Catherine (née John) ei wraig, fe'i haddysgwyd yn Ysgol Golegol Pontardawe a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru. Mewn cyfnod lle'r oedd rygbi yn gêm amatur roedd yn ennill ei fywoliaeth fel rheolwr gwaith tunplat. Ym 1913 priododd Maud Stanhope, merch Mr a Mrs. Stanhope, Cas-gwent.[2] Bu farw yn Abertawe yn 86 oed.

Gyrfa rygbi golygu

Chwaraeodd Hopkins ei rygbi gyntaf ar lefel bechgyn ysgol i Ysgol Golegol Pontardawe, ac ar ôl iddo gael ei dderbyn yn fyfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, bu'n aelod o dîm y coleg. Roedd yn sbortsmon amryddawn bu'n chware sawl camp i safon uchel, gan gynnwys pêl-droed, tenis a hoci. Rhwyfodd dros Brifysgol Bangor yn Henley ac roedd yn eilydd i dîm hoci Cymru a'r tîm pêl-droed amatur.[3]

Ar lefel clwb, chwaraeodd Hopkins ei rygbi gyntaf i Glwb Rygbi Pontardawe, ei dîm lleol cyn iddo symud i glwb rygbi Abertawe ym 1902[4]. Ym 1908 daeth Hopkins i'r amlwg pan wynebodd dîm teithiol cyntaf Awstralia ar dri achlysur, ar lefel clwb, sir a rhyngwladol. Ei gyfarfod cyntaf gyda'r Awstraliaid oedd pan gafodd ei ddewis ar gyfer tîm wahodd Sir Forgannwg . Yn y gêm, a chwaraewyd ym Mhontypridd, enillodd y twristiaid 16-3. Dau fis yn ddiweddarach, dewiswyd Hopkins ar gyfer ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf pan gafodd ei ddewis ar gyfer tîm Cymru i wynebu Awstralia. Cafodd Hopkins gêm nodedig yn sgorio un o ddau gais Cymru, mewn buddugoliaeth agos.[5] Yna ar 26 Rhagfyr 1908, wynebodd Hopkins Awstralia am y tro olaf pan chwaraeodd dros Abertawe mewn buddugoliaeth hanesyddol dros y twristiaid.

Chwaraeodd Hopkins nesaf i Gymru ym Mhencampwriaeth y Pedair Gwlad 1909, a chwaraeodd mewn dwy o'r gemau, yn erbyn Lloegr ac Iwerddon. Sgoriodd Hopkins gais yn y ddwy gêm. Gyda Chymru’n curo’r tri gwrthwynebydd yn y twrnamaint, daeth Hopkins yn rhan o dîm a enillodd y Goron Driphlyg. Chwaraeodd Hopkins mewn dim ond un gêm arall i Gymru, ei gêm ryngwladol cyntaf mewn carfan a gollodd, mewn gêm oddi cartref i Loegr fel rhan o Bencampwriaeth y Pum Gwlad 1910.

Gemau rhyngwladol golygu

Cymru

Roedd Hopkins yn sbortsmon amryddawn, ac yn chware pêl droed y gynghrair, hoci, tenis a chriced yn ogystal â rygbi.[10]

Llyfryddiaeth golygu

  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.

Cyfeiriadau golygu

  1. Philip Hopkins rugby profile Scum.com
  2. "PHIL HOPKINS MARRIED - The Cambria Daily Leader". Frederick Wicks. 1913-02-01. Cyrchwyd 2021-04-22.
  3. "Wallabies in Swansea - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1908-12-26. Cyrchwyd 2021-04-21.
  4. "BANGOR AND DISTRICT - The North Wales Express". Robert Wiliams. 1902-10-17. Cyrchwyd 2021-04-22.
  5. "Saturday's Great Match - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1908-12-14. Cyrchwyd 2021-04-21.
  6. Pearce, Walter Alfred (1908-12-12). "New Weish Caps -". Papurau Cymru LlGC. Evening Express. Cyrchwyd 2021-04-22.
  7. Pearce, Walter Alfred (1909-01-07). "Wales v England". Papurau Cymru LlGC. Evening Express. Cyrchwyd 2021-04-22.
  8. Jenkins, T. (1910-01-21). "TRIUMPH FOR ENGLAND -". Papurau Cymru LlGC. The Cambrian. Cyrchwyd 2021-04-22.
  9. Pearce, Walter Alfred (1909-03-13). "TRIPLE CROWN -". Papurau Newyddion LlGC. Evening Express. Cyrchwyd 2021-04-22.
  10. "PHIL HOPKINS RETIRING - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1910-09-17. Cyrchwyd 2021-04-22.