Philip Hammond
Gwleidydd Ceidwadol Prydeinig yw Philip Anthony Hammond PC AS (ganwyd 4 Rhagfyr 1955)[1]. Roedd yn Ganghellor y Trysorlys rhwng Gorffennaf 2016 a Gorffennaf 2019.
Y Gwir Anrhydeddus Philip Hammond AS | |
---|---|
Canghellor y Trysorlys | |
Yn ei swydd 13 Gorffennaf 2016 – 24 Gorffennaf 2019 | |
Prif Weinidog | Theresa May |
Rhagflaenwyd gan | George Osborne |
Dilynwyd gan | Sajid Javid |
Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor a'r Gymanwlad | |
Yn ei swydd 15 Gorffennaf 2014 – 13 Gorffennaf 2016 | |
Prif Weinidog | David Cameron |
Rhagflaenwyd gan | William Hague |
Dilynwyd gan | Boris Johnson |
Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn | |
Yn ei swydd 14 Hydref 2011 – 15 Gorffennaf 2014 | |
Prif Weinidog | David Cameron |
Rhagflaenwyd gan | Liam Fox |
Dilynwyd gan | Michael Fallon |
Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth | |
Yn ei swydd 11 Mai 2010 – 14 Hydref 2011 | |
Prif Weinidog | David Cameron |
Rhagflaenwyd gan | Arglwydd Adonis |
Dilynwyd gan | Justine Greening |
Prif Ysgrifennydd Cysgodol i'r Trysorlys | |
Yn ei swydd 2 Gorffennaf 2007 – 11 Mai 2010 | |
Arweinydd | David Cameron |
Rhagflaenwyd gan | Theresa Villiers |
Dilynwyd gan | Liam Byrne |
Yn ei swydd 10 Mai 2005 – 6 Rhagfyr 2005 | |
Arweinydd | Michael Howard |
Rhagflaenwyd gan | George Osborne |
Dilynwyd gan | Theresa Villiers |
Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol dros Waith a Phensiynau | |
Yn ei swydd 6 Rhagfyr 2005 – 2 Gorffennaf 2007 | |
Arweinydd | David Cameron |
Rhagflaenwyd gan | Malcolm Rifkind |
Dilynwyd gan | Chris Grayling |
Mwyafrif | 22,134 (44.2%) |
Aelod Seneddol dros Runnymede a Weybridge | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 1 Mai 1997 | |
Rhagflaenwyd gan | Sefydlwyd yr etholaeth |
Manylion personol | |
Ganwyd | Philip Anthony Hammond 4 Rhagfyr 1955 Epping, Essex, Lloegr |
Cenedligrwydd | Prydeinig |
Plaid wleidyddol | Ceidwadwyr |
Priod | Susan Williams-Walker |
Plant | 3 |
Alma mater | Coleg y Brifysgol, Rhydychen |
Etholwyd Hammond i'r Senedd yn 1997 fel yr Aelod Seneddol dros Runnymede ac yn Weybridge.
Cafodd ei ddyrchafu i'r Cabinet Cysgodol gan David Cameron yn 2005 fel Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol dros Waith a Phensiynau, ac aros yn swydd hyd ad-drefnu 2007, pan ddaeth yn Brif Ysgrifennydd Cysgodol y Trysorlys. Ar ôl ffurfio y Llywodraeth Glymblaid ym Mai 2010, penodwyd ef yn Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth a thyngodd lw i'r Cyfrin Gyngor. Wedi ymddiswyddiad Liam Fox oherwydd sgandal ym mis Hydref 2011, dyrchafwyd Hammond i Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn ac, ym mis Gorffennaf 2014, daeth yn Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor a Materion y Gymanwlad.[2][3] Wedi i Theresa May ddilyn Cameron fel Prif Weinidog ym mis Gorffennaf 2016, penodwyd Hammond yn Ganghellor y Trysorlys.
Bywyd cynnar
golyguGanwyd Hammond yn Epping, Essex, yn fab i beiriannydd sifil. Addysgwyd ef yn Ysgol Iau Brookfield, ac Ysgol Shenfield (nawr Ysgol Uwchradd Shenfield) yn Brentwood, Essex. Bu'n astudio Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg yng Ngholeg y Brifysgol, Rhydychen, a graddiodd gydag gradd anrhydedd dosbarth cyntaf Baglor yn y Celfyddydau (BA).
Ymunodd Hammond â'r gweithgynhyrchwyr offer meddygol Speywood Laboratories Ltd yn 1977, gan ddod yn gyfarwyddwr Speywood Medical Limited yn 1981.[4] Ym 1982, roedd ffatri gweithgynhyrchu electrod electrocardiograph awtomatig ymhlith ei llwyddiannau nodedig. Gadawodd ym 1983 ac, o 1984, gweithiodd fel cyfarwyddwr yn Castlemead Ltd.
O 1993 i 1995, roedd yn bartner yn CMA Consultants ac, ers 1994, cyfarwyddwr gyda Castlemead Homes.[5] Roedd ganddo lawer o ddiddordebau busnes, gan gynnwys adeiladu tai ac eiddo, cynhyrchu, gofal iechyd, ac olew a nwy. Ymgymerodd amryw o aseiniadau ymgynghori yn America Ladin ar gyfer y Banc y Byd yn Washington, D.C., a roedd yn ymgynghorydd i Lywodraeth Malawi o 1995 hyd ei ethol i'r Senedd.
Aelod o'r Senedd (1997–)
golyguRoedd Hammond yn gadeirydd Cymdeithas Ceidwadol Lewisham Dwyrain am saith mlynedd o 1989 a chystadlodd yn is-etholiad Newham North East 1994 yn dilyn marwolaeth yr AS Llafur Ron Leighton, gan golli i'r ymgeisydd Llafur newydd, Stephen Timms o 11,818 o bleidleisiau. Cafodd ei ethol i Dŷ'r Cyffredin yn etholiad cyffredinol 1997 ar gyfer y sedd newydd Runnymede a Weybridge yn Surrey. Enillodd y sedd gyda mwyafrif o 9,875 ac mae wedi aros yn AS ers hynny. Gwnaeth ei araith gyntaf ar 17 Mehefin 1997.
Bywyd personol
golyguPriododd Hammond Susan Carolyn Williams-Walker ar 29 Mehefin 1991. Mae ganddynt ddwy ferch a mab,[6][7] ac yn byw yn Send, Surrey, gydag un arall yn y cartref yn Llundain. Amcangyfrif cyfoeth Hammond i fod tua £9 miliwn.[8]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Philip Hammond MP". BBC- Democracy live. Cyrchwyd 13 October 2011.
- ↑ "William Hague quits as foreign secretary in cabinet reshuffle". BBC News. Cyrchwyd 14 July 2014.
- ↑ "Grande-Bretagne : l'eurosceptique Philip Hammond remplace Hague aux Affaires étrangères". euronews. Cyrchwyd 15 July 2014.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-23. Cyrchwyd 2016-07-13.
- ↑ http://www.castlemead-ltd.co.uk Castlemead Homes
- ↑ "Conservative Party". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-05-07. Cyrchwyd 2016-07-13.
- ↑ BBC News: Vote 2001
- ↑ "The new ruling class". New Statesman. London. 1 Hydref 2009.