Diwinydd Lutheraidd o'r Almaen oedd Philipp Jakob Spener (23 Ionawr 16355 Chwefror 1705) a ystyrir yn dad y mudiad Pietistaidd.

Philipp Spener
FfugenwPius Desiderius, Philaletha Germanus, Martin Wahrmund Edit this on Wikidata
Ganwyd13 Ionawr 1635 Edit this on Wikidata
Ribeauvillé Edit this on Wikidata
Bu farw5 Chwefror 1705 Edit this on Wikidata
Berlin Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Almaen Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Strasbwrg
  • Prifysgol Strasbourg Edit this on Wikidata
Galwedigaethdiwinydd Edit this on Wikidata
MudiadPietistiaeth Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg

golygu

Ganwyd Philipp Jakob Spener yn Rappoltsweiler, Uwch Alsás (heddiw Ribeauvillé, Haut-Rhin, Ffrainc) ar 23 Ionawr 1635. Ers yr 11g, perchenogid y dref honno a'i chyrion gan Arglwyddi Rappoltstein, yn rhan o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig. Yn 1639 daeth y rhan fwyaf o ranbarth Alsás dan reolaeth Teyrnas Ffrainc, sefyllfa a gadarnhawyd gan Gytundeb Heddwch Westfalen yn 1648. Er hynny, arhosodd diwylliant y rhanbarth yn Almaeneg a'i chrefydd yn Brotestannaidd. Yn 1680–81 daeth Rappoltsweiler hefyd dan sofraniaeth Ffrainc.

Astudiodd Spener hanes, athroniaeth, ieitheg, a diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Strasbwrg o 1651 i 1659. Aeth ati i astudio ym mhrifysgolion Basel, Tübingen, a Genefa. Yng Ngenefa fe ddaeth yn wybodus am ddysgeidiaethau'r eglwysi Diwygiedig, a gawsant argraff fawr arno er gwaethaf ei ffyddlondeb at yr Eglwys Lutheraidd.[1]

Gweinidogaeth

golygu

Dychwelodd Spener i Strasbwrg yn 1633 a fe'i penodwyd yn bregethwr cynorthwyol. Cafodd ei alw i Frankfurt am Main yn 1666 i dderbyn uwch weinidogaeth yr eglwys Lutheraidd yno. Wrth ei swydd, ymdrechodd Spener gryfhau disgyblaeth eglwysig, pwysleisiodd hyfforddiant yr ieuenctid a defnydd yr holwyddoreg, a sefydlodd gwasanaeth y conffyrmasiwn.[1]

Yn 1670 dechreuodd Spener gynnal cyfarfodydd o grwpiau bychain o ddilynwyr i astudio'r Beibl, gweddïo ar y cyd, a thrafod pregethau'r Sul. Rhoddwyd yr enw collegia pietatis ar y cyfarfodydd hyn, ac o hynny daw enw'r mudiad Pietistaidd a sbardunwyd gan weinidogaeth a dysgeidiaeth Spener. Yn 1675 cyhoeddodd Pia Desideria ("Dymuniadau Duwiol"), sy'n cynnwys ei gynigion er adfer yr eglwys Gristnogol, megis addysg ddiwinyddol, pwyslais ar ffydd bersonol ac arferion byw Cristnogol, pregethau o natur ymarferol, a mwy o ran i'r cynulleidfawyr yn y llywodraeth eglwysig. Trwy ddylanwad ei ysgrifeniadau a'i ddisgyblion, lledaenodd grwpiau ysbrydol diwygiedig ar draws tiroedd Protestannaidd yr Almaen.[1]

Yr erbyniad Pietistaiadd

golygu

Penodwyd Spener yn gaplan y llys yn Dresden yn 1686, ond cafodd ei wrthwynebu gan y glerigiaeth ac Etholydd Sachsen. Yn 1691 derbyniodd Spener reithoriaeth Eglwys Sant Nicolas ym Merlin, gyda chefnogaeth Ffredrig, Etholydd Brandenburg-Prwsia. Cynorthwyodd wrth sefydlu Prifysgol Halle yn Halle an der Saale yn 1694, ac yn ddiweddarach, trwy weithgareddau ei ddisgybl August Hermann Francke, daeth y ddinas honno yn ganolfan i Bietistiaeth.[1]

Yn 1695, cyhuddwyd Spener gan gyfadran ddiwinyddol Prifysgol Wittenberg o gyfeiliorni ar athrawiaethau'r Eglwys Lutheraidd. Er gwaethaf yr ymrysonau ffyrnig rhyngddo â'i wrthwynebwyr, parhaodd Spener i bregethu am weddill ei oes.[1] Ysgrifennodd mwy na 300 o weithiau crefyddol i gyd, gan gynnwys Das geistliche Priestertum ("Yr Offeiriadaeth Ysbrydol"; 1677) a Die allgemeine Gottesgelehrtheit ("Diwinyddiaeth Gyffredinol"; 1680).[2]

Diwedd ei oes

golygu

Bu farw ym Merlin, Prwsia, ar 5 Chwefror 1705.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 (Saesneg) "Philipp Jakob Spener" yn Encyclopedia of World Biography (Gale, 2004). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 21 Awst 2019.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Philipp Jakob Spener. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Awst 2019.