Pig yr Aran
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Rosidau
Urdd: Geraniales
Teulu: Geraniaceae
Genws: Geranium
Rhywogaeth: G. molle
Enw deuenwol
Geranium molle
L.

Blodyn cyffredin sy'n tyfu mewn tir diffaith, cloddiau a thir wedi ei drin ydyw Pig yr Aran, Troed y Golomen neu Garanbig Maswaidd; (Lladin: Geranium molle; Saesneg: Dovesfoot neu Crane's-bill). Un bychan ydyw rhwng 10 a 15 cm ac mae'n blodeuo rhwng Ebrill a Medi.

Mae'n wreiddiol o ganol a gorllewin Ewrop ond bellach fe'i gwelir yn tyfu yng ngogledd America. Caiff ei ystyried fel chwynyn gan y rhan fwyaf o bobl a defnyddir "Glyphosate" i'w reoli.

Rhinweddau meddygol golygu

Caiff ei ystyried yn dda ar gyfer gwynt yn y bol ac i hel cerrig allan o'r arennau. O wasgu'r planhigyn yn y dwylo a'i roi ar y croen gellir trin gowt a chymalau poenus.[1] Ceir tystiolaeth hefyd y gall wella: clwy'r marchogion, craciau ar y croen, cylchrediad y gwaed, gwynegon y cluniau, dolur gwddw, problemau mislif, llau pen a llid y bledren.[2]

Mathau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. The English physitian: or an astrologo-physical discourse of the vulgar herbs of this nation. London : Peter Cole, 1652
  2. Gwefan Saesneg[dolen marw]

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am blanhigyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato