Llid ar y bledren ydy llid y bledren sy'n effeithio merched yn fwy na dynion, a hynny ym mhob grwp oedran. Yr hyn sy'n ei achosi yw bacteria'n heintio'r bledren neu'r iwrethra neu wrethra sef y tiwb sy’n cario’r iwrin allan o’r corff. Mae'n anhwylder anghyfforddus gyda'r claf yn teimlo ei fod am wneud dŵr o hyd. Gall yr iwrin fod yn gymylog ac yn ddrewllyd, neu fe all gynnwys ychydig o waed. Nid yw'n haint difrifol iawn y dyddiau hyn.

Rhestr Afiechydon
Pigiad
Pwyswch ar dangos i weld y rhestr.
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Mae'n bosibl iddo gael ei achosi drwy gyfathrach rhywiol rhy egniol. Mae ymlediad bacteria o'r anws hefyd yn medru ei achosi, felly er mwyn ei osgoi awgrymir fod merched yn sychu eu tinau o'r ffrynt i'r cefn ar ôl ysgarthu, rhag gwthio'r bacteria i'r iwrethra.

Triniaeth confensiynol

golygu

Defnyddir gwrthfeiotig i'w drin.

Meddygaeth amgen

golygu

Defynyddir y planhigion canlynol i wella llid y bledren: bergamot, perllys, pig yr Aran a sandalwydd a chymeradwyir yfed sudd llugaeron (cranberry) a digon o ddŵr.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am iechyd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato