System gylchredol

(Ailgyfeiriad o Cylchrediad y gwaed)

Mewn anatomeg ddynol, mae'r system cylchrediad gwaed yn pwmpio a sianelu gwaed o amgylch y corff (a'r ysgyfaint) drwy rym y galon a hynny drwy wythiennau, capilarïau, a rhydwelïau.

System cylchredol dynol, manwl. Yn y diagram hwn o bibellau gwaed, mae coch yn cynnwys ocsigen a glas heb ocsigen.

Mae gwaed yn ochr dde'r galon yn cael ei bwmpio i'r ysgyfaint. Yn yr ysgyfaint, mae'r gwaed yn cyfnewid nwyon ac yn derbyn ocsigen o'r ysgyfaint ac yn rhoi carbon deuocsid. Wedyn, mae'r gwaed sy'n cynnwys llawer o ocsigen erbyn hyn, yn dychwelyd i ochr chwith y galon, lle caiff ei bwmpio drwy'r rhydwelïau i weddill y corff. Mae'r gwaed yn cludo ocsigen i'r corff felly, ac mae'n hel carbon deuocsid o'r corff. Wedyn, mae'r gwaed yn dychwelyd o'r corff trwy'r gwythiennau, gyda llai o ocsigen a mwy o garbon deuocsid; mae'r gwaed is-ocsigen hwn yn cyrraedd ochr dde'r galon, o ble mae'n cael ei bwmpio i'r ysgyfaint unwaith eto.

Yn ogystal â nwyon, mae'r gwaed yn cludo sylweddau eraill drwy'r corff. Er enghraifft: mae e'n cario sylweddau sy'n trawsgludo ynni o fwyd i'r cyhyrau; hormonau; a sylweddau gwastraff o'r corff, a dynnir o'r gwaed gan yr arennau.

Meddygaeth amgen golygu

Dywedir fod y llysiau canlynol yn help i wella cylchrediad y gwaed: pig yr Aran, pupur du, rhosmari, sinsir a saets y waun.

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am anatomeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.