Plantaginaceae
Teulu'r llyriad | |
---|---|
Scoparia dulcis | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
Urdd: | Lamiales |
Teulu: | Plantaginaceae Juss. |
Llwythi | |
| |
Cyfystyron | |
Antirrhinaceae Pers. |
Teulu o blanhigion blodeuol yw'r Plantaginaceae, neudeulu'r llyriad, sy'n perthyn i'r urdd Lamiales. Y teipdylwyth yw Plantago L., sy'n cynnwys P. major a P. coronopus.
Tan yn ddiweddar, roedd yn deulu bychan o fewn urdd ei hun – y Plantaginales – ond mae astudiaethau ffylogenetig, wedi eu crynhoi yn yr Angiosperm Phylogeny Group (APG), wedi dangos y dylai'r teulu gael ei gynnwys yn yr urdd Lamiales.
Trosolwg
golyguYn draddiodiadol, dim on tri genws oedd yn nheulu'r Plantaginaceae: Bougueria, Littorellaa Plantago. Fodd bynnag, mae ymchwil ffylogenetig wedi dangos fod y Plantaginaceae yn yr ystyr fanylaf wedi eu hamnythu o fewn y Scrophulariaceae (ond gan ffurfio grwp ac eithrio teipdylwyth y teulu hwnnw, Scrophularia). Er mai Veronicaceae (1782) yw'r enw hynnaf ar gyfer y grwp hwn, mae'r enw Plantaginaceae (1789) wedi ei warchod gan y Gyfundrefn Enwau Botanegol Ryngwladol (ICBN) ac mae ganddo felly flaenoriaeth dros unrhyw enw arall am deulu sy'n cynnwys y genws Plantago. Ar ben hynny, dydy enwau wedi eu cyhoeddi cyn 1789 ddim yn gymwys i gael eu gwarchod gan yr ICBN. Mae'r enw Antirrhinaceae wedi ei gynnig ar gyfer cael ei warchod yn lle'r enw Plantaginaceae.Yn y cyfamser, mae'r APG wedi derbyn yr enw Plantaginaceae
Yn yr ystyr ehangach, mae'r Plantaginaceae yn deulu amryfath a chosmopolitaidd ac i'w canfod yn bennaf mewn cylchfeydd tymherus. Mae'r grwp yn cynnwys llysiau, llwyni a hefyd rhai planhigion dyfrdrig gyda gwreiddiau (ee y genws Callitriche). Oherwydd yr amrywiaeth yma, mae amsgrifiad y teulu yn anodd i'w gadarnhau.[1]
Gall dail planhigion y Plantaginaceae fod yn droellog neu gyferbyn a'i gilydd, yn syml neu'n gyfansawdd.
Gall strwythur a ffurf y blodau amrywio. Mae gan rhai genera bedwar petal a phedwar sepal; mae gan aelodau erai bump i wyth o bob un.
Hadlestr neu gibyn (capsule) yw'r ffrwyth, sy'n ymagor trwy raniadau rhwng y celloedd.
Gaynerayabuelamiabchitobabi
golyguMae'r Plantaginaceae wedi iddo gael ei ehangu yn cynnwys 94 genws a tua 1,900 o rywogaethau.[2]Veronica yw'r genws mwyaf, gyda tua 450 rhywogaeth. Mae Veronica hefyd weithiau'n cynnwys y genera Hebe, Parahebe and Synthyris, oedd gynt yn cael eu trin fel genera ar wahan. Ar wahan i pan ddatganir yn wahanol, roedd pob aelod o'r Plantaginaceae gynt wedi ei gynnwys yn y Scrophulariaceae.
|
|
|
Genera wedi eu symud
golygu
|
|
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Albach, D. C.; Meudt, H. M.; Oxelman, B. (2005). "Piecing together the "new" Plantaginaceae". American Journal of Botany 92 (2): 297–315. doi:10.3732/ajb.92.2.297. PMID 21652407. http://www.amjbot.org/cgi/content/full/92/2/297. Adalwyd 2018-06-27.
- ↑ Christenhusz, M. J. M.; Byng, J. W. (2016). "The number of known plants species in the world and its annual increase". Phytotaxa (Magnolia Press) 261 (3): 201–217. doi:10.11646/phytotaxa.261.3.1. http://biotaxa.org/Phytotaxa/article/download/phytotaxa.261.3.1/20598.
- ↑ "GRIN Genera of Plantaginaceae tribe Angelonieae". Germplasm Resources Information Network. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Cyrchwyd 2011-04-28.
- ↑ "GRIN Genera of Plantaginaceae tribe Antirrhineae". Germplasm Resources Information Network. Cyrchwyd 2011-04-28.
- ↑ "GRIN Genera of Plantaginaceae tribe Callitricheae". Germplasm Resources Information Network. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Cyrchwyd 2011-04-28.
- ↑ "GRIN Genera of Plantaginaceae tribe Cheloneae". Germplasm Resources Information Network. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Cyrchwyd 2011-04-28.
- ↑ "GRIN Genera of Plantaginaceae tribe Digitalideae". Germplasm Resources Information Network. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Cyrchwyd 2011-04-28.
- ↑ "GRIN Genera of Plantaginaceae tribe Globularieae". Germplasm Resources Information Network. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Cyrchwyd 2011-04-28.
- ↑ "GRIN Genera of Plantaginaceae tribe Gratioleae". Germplasm Resources Information Network. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Cyrchwyd 2011-04-28.
- ↑ "GRIN Genera of Plantaginaceae tribe Hemiphragmeae". Germplasm Resources Information Network. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Cyrchwyd 2011-04-28.
- ↑ "GRIN Genera of Plantaginaceae tribe Plantagineae". Germplasm Resources Information Network. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Cyrchwyd 2011-04-28.
- ↑ "GRIN Genera of Plantaginaceae tribe Russelieae". Germplasm Resources Information Network. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Cyrchwyd 2011-04-28.
- ↑ "GRIN Genera of Plantaginaceae tribe Sipthorpieae". Germplasm Resources Information Network. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Cyrchwyd 2011-04-28.
- ↑ "GRIN Genera of Plantaginaceae tribe Veroniceae". Germplasm Resources Information Network. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Cyrchwyd 2011-04-28.
- ↑ "GRIN genera sometimes placed in Plantaginaceae". Germplasm Resources Information Network. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2004-11-18. Cyrchwyd 2011-04-28.