Antirrhinum
Genws o blanhigion blodeuol yw Antirrhinum. Mae tua 20 rhywogaeth i'w canfod yng ngorllewin Ewrop a gogledd Affrica.[1][2][3] Yn flaenorol, roedd tair adran i'r genws: Antirrhinum, Orontium a Saerorhinum. Fodd bynnag, mae Orontium a Saerorhinum wedi eu gwahanu o'r genws ac maent bellach yn y genera Misopates a Sairocarpus, yn y drefn honno.[1][4][5]
Enghraifft o'r canlynol | tacson |
---|---|
Safle tacson | genws |
Rhiant dacson | Antirrhineae |
Dechreuwyd | Mileniwm 6. CC |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Antirrhinum Amrediad amseryddol: 5–0 Miliwn o fl. CP Recent | |
---|---|
Trwyn y llo (Antirrhinum majus) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiospermau |
Ddim wedi'i restru: | Eudicotau |
Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
Urdd: | Lamiales |
Teulu: | Plantaginaceae |
Llwyth: | Antirrhineae |
Genws: | Antirrhinum L. |
Teiprywogaeth | |
Antirrhinum majus L. | |
Is-adrannau | |
|
Disgrifiad
golyguMae'r genws Antirrhinum yn amryfath o ran morffoleg, ac mae llawer o'r rhywogaethau wedi addasu ar gyfer cynefinoedd gwahanol iawn, yn aml gydag amgylcheddau eithafol. Er hyn, gall pob aelod o'r genws groesi â'i gilydd, gan roi cymysgrywiau ffrwythlon. Mae llawer o ymchwil gwyddonol wedi defnyddio'r gallu croesi yma er mwyn dynodi a deall mecanweithiau genetig sy'n tanseilio gwahaniaethau rhwng rhywogaethau.[6]
Er fod maint blodau gwahanol rywogaethau Antirrhinum yn amrywiol, gwelir yr un siap cyffredinol ym mhob un aelod. Mae'r pum petal wedi asio at ei gilydd am ran o'u hyd i ffurfio tiwb. Mae'r tiwb hwn wedi ei gau gan ddwy wefus, gyda'r wefus uchaf (dwy betal) yn pwyntio i fyny a'r wefus isaf (tair petal) wedi plygu i ffurfio platfform glanio ar gyfer peillwyr. Gwenyn gwyllt mawr (bumblebees, Bombus) sy'n peillio'r rhywogaethau â'r blodau mwyaf (is-adrannau Antirrhinum a Streptosepalum tra bo gwenyn unig (solitary bees) yn peillio rhywogaethau â blodau llai (is-adran Kickxiella.[6]
Rhywogaethau
golyguMae 17 rhywogaeth wedi eu derbyn ar restr planhigion The Plant List Archifwyd 2019-05-23 yn y Peiriant Wayback:[1][7]
- Rhywogaeth Antirrhinum L.
- Adran Antirrhinum
- Is-adran Antirrhinum
- Antirrhinum australe Rothm.
- Antirrhinum barrelieri Boreau
- Antirrhinum charidemi Lange
- Antirrhinum graniticum Rothm.
- Antirrhinum hispanicum Chav.
- Antirrhinum hispanicum ssp mollissimum (Pau)
- Antirrhinum latifolium Mill.
- Antirrhinum majus L.
- Antirrhinum majus ssp majus
- Antirrhinum majus ssp majus var pseudomajus (Rouy)
- Antirrhinum majus ssp majus var striatum (DC.)
- Antirrhinum majus ssp linkianum Boiss. & Reut.
- Antirrhinum majus ssp majus
- Antirrhinum siculum Mill.
- Is-adran Streptosepalum
- Antirrhinum braun-blanquetii Rothm.
- Antirrhinum meonanthum Hoffmanns. & Link
- Is-adran Kickxiella
- Antirrhinum grosii Font Quer
- Antirrhinum microphyllum Rothm.
- Antirrhinum molle L.
- Antirrhinum pertegasii Rothm.
- Antirrhinum pulverulentum Lázaro Ibiza
- Antirrhinum sempervirens Lapeyr.
- Antirrhinum valentinum Font Quer
- Is-adran Antirrhinum
- Adran Antirrhinum
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Antirrhinum - The Plant List. Version 1.1. The Plant List. Adalwyd ar 26 Mehefin 2018.
- ↑ (2008) RHS A-Z encyclopedia of garden plants (yn Saesneg). Y Deyrnas Unedig: Dorling Kindersley, tud. 1136. ISBN 1405332964
- ↑ Antirrhinum L.. Plants of the World Online. Gerddi Kew. Adalwyd ar 26 Mehefin 2018.
- ↑ Oyama, = RK; a Baum, DA (2004). Phylogenetic relationships of North American Antirrhinum (Veronicaceae), American Journal of Botany, Cyfrol 91, Rhifyn 6, tud. 918–925. DOI:10.3732/ajb.91.6.918. URL
- ↑ Hudson, Andrew; Critchley, Joanna; ac Erasmus, Yvette (2008-10-01) (2008). The genus Antirrhinum (snapdragon): a flowering plant model for evolution and development, Cold Spring Harbor Protocols, Cyfrol 2008, Rhifyn 10 (yn Saesneg), tud. pdb.emo100. DOI:10.1101/pdb.emo100. URL
- ↑ 6.0 6.1 Hudson, A; a Wilson, Y (2011). The evolutionary history of Antirrhinum suggests that ancestral phenotype combinations survived repeated hybridizations, The Plant Journal, Cyfrol 66, tud. 1032–1043. DOI:10.1111/j.1365-313X.2011.04563.x
- ↑ AntSpec. John Innes Centre. Adalwyd ar 26 Mehefin 2018.