Bodidris
Plasty Tuduraidd o'r 16g a chynt yw Bodidris a gofrestwyd gan Cadw fel adeilad Gradd II* ar 28 Ebrill 1952. Ceir rhannau'n dyddio i'r 15g a chynt - cyfnod teulu'r Llwydiaid. Saif y plasty tua tair milltir i'r de-ddwyrain o Lanarmon-yn-Iâl ar y ffin rhwng Sir Ddinbych a Wrecsam.
Enghraifft o'r canlynol | adeilad |
---|---|
Rhan o | Ystâd Bodidris |
Lleoliad | Llandegla |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Llandegla |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gosodwyd y plasty ei hun, bloc o adeiladau gyda thŵr (16g) a'r bloc ar gyfer y gweision (17g) ar ffurf petrual - ond dymchwelwyd yr ochr ogleddol (16g ers 1958. Mae adeilad y tŵr ar yr ochr ddeheuol ac yn ddeulawr, gydag atig a cheir arno arfbais sy'n cynnwys arth a ffon. Mae ffrynt y plasty yn eitha cymesur, ac yng nghefn y tŷ ceir tair simne anferthol o garreg; tywodfaen yw ffasâd y waliau, a charreg leol oddi fewn. Mae'r lle tân llydan yn unigryw a cheir ffenestri carreg hynod drwy'r plasty. Ceir grotesgau cerfiedig ar ran ucha'r tŵr.[1]
Perchnogion
golyguEvan Lloyd a theulu'r Llwydiaid
golyguSaif beddrod Evan Lloyd yn Eglwys Sant Garmon, Llanarmon-yn-Iâl, Sir Ddinbych. Mae'n hynod o debyg i feddrod Sion Trefor (m. 1589) o Drefalun sy'n llai nag 14 milltir i'r dwyrain.
-
Beddrod Evan Lloyd
-
Y gofeb Gymraeg
-
Arfbais y teulu ar y gofeb
Dyddiwyd yr hen neuadd (a elwir heddiw yn 'stablau') i 1581 ac yn bensaerniol mae'n adeilad nodedig iawn, a godwyd tua'r un cyfnod a'r prif blasty, yn fwy na thebyg gan Efan (neu Ifan) Llwyd a fu'n Uwch Siryf Sir Ddinbych yn 1583. Mae'n bosib y defnyddiwyd yr adeiladau hyn gan aelodau eraill y teulu ac o bosib gan Iarll Leicester a ymladdodd gyda Evan Lloyd yn Iwerddon ac a wnaed yn farchog yn 1586. Bu Leicester yn byw mewn rhan o Fodidris rhwng 1563-1578, gan ei ddefnyddio fel canolfan i hela, a gwelir ei arfbais (yr arth a'r ffon) ar dalcen deheuol y 'stablau'.[2]
Y teulu Williams
golyguYn y 19g aeth Bodidris i berchnogaeth y teulu Williams, perchnogion Castell Bodelwyddan. Syr Hugh Williams a dalodd am yr ysgol yn Llandegla a'i chwaer, Margaret, Lady Willoughby de Broke, a dalodd am godi eglwys newydd yn y pentref.
Gweler hefyd
golygu- Ystad Wynnstay, Rhiwabon, Wyniaid Wynnstay (y teulu Williams Wyn)
- Plas Teg, cartref Sion Trevor (1563–1630)
- Ystad a Neuadd Trefalun, cartref Sion Trefor (m. 1589)
- Lleweni, Dinbych, cartref y teulu Salusbury
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Coflein; adalwyd 24 Medi 2017.
- ↑ britishlistedbuildings.co.uk; adalwyd 24 Medi 2017.