Plas Newydd (beddrod siambr)
cromlech ym Mhlas newydd, Ynys Mon
Heneb, a math o feddrod siambr (Saesneg: chambered tomb) sy'n perthyn i Oes Newydd y Cerrig (rhwng 3,000 a 2,400 C.C.)[1] ydy beddrodd siambr Plas Newydd, i'r de o'r Plas Newydd ger Llanddaniel Fab, Ynys Môn; cyfeiriad grid SH519697. [2]
Math | heneb gofrestredig, siambr gladdu |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Llanddaniel Fab |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.203905°N 4.217473°W |
Cod OS | SH5199069722 |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | AN005 |
Gelwir y math yma o siambr yn feddrod siambr (lluosog: beddrodau siambr) ac fe gofrestrwyd y siambr fel heneb gan Cadw gyda'r rhif SAM: AN005.
Fe'i codwyd i gladdu'r meirw ac, efallai, yn ffocws cymdeithasol i gynnal defodau yn ymwneud â marwolaeth. Saif ar barcdir Plas Newydd ar lan Afon Menai. Ceir cerrig y brif siambr sy'n mesur 3 wrth 2.4 metr, gyda maen clo, a siambr lai gyda maen clo. Mae'r deunydd a orchuddiai'r siambrau wedi mynd gan adael y cerrig yn ynig.[3]
Gweler hefyd
golygu- Bryn yr Hen Bobl, beddrod siambr arall yn yr un ardal
- Beddrod Hafren-Cotswold
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Gwefan English Heritage". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-06. Cyrchwyd 2010-10-12.
- ↑ Data Cymru Gyfan, CADW
- ↑ Christopher Houlder, Wales: an archaeological guide (Faber, 1978), tud. 44.