Pont-y-meistr

pentref ym Mwrdeistref Sirol Caerffili

Pentref yng nghymuned Gorllewin Rhisga, bwrdeisdref sirol Caerffili, Cymru, yw Pont-y-meistr neu Pontymister.[1][2] Saif i'r de o dref Rhisga.

Pont-y-meistr
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCaerffili Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6°N 3.1°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruRhianon Passmore (Llafur)
AS/au y DUChris Evans (Llafur)
Map

Fferm o'r enw Tŷ Isaf oedd y lleoliad yn wreiddiol, ond daeth y pentref i fodolaeth mewn ymateb i'r angen am dai ar gyfer gweithwyr y felin ddur a'r gweithiau cemegol gerllaw. Adeiladwyd y rhan fwyaf o'r tai rhwng 1920 ac 1925.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rhianon Passmore (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Chris Evans (Llafur).[4]

Mae nifer o dafarndai lleol yn dal i fod ag enwau sy'n ymwneud a'r diwydiant dur: The Rolling Mill, The Forge Hammer ayb. Ceir llwybr hir y Ffordd Sistersiaidd (Cymru) wedi ei farcio ac yn pasio drwy Bont-y-Meistr.[5]

Roedd gweithfeydd dur Pont-y-Meistr yn enwog fel mynwent hen drenau stêm. Daethpwyd â'r rhan fwyaf yno yn yr 1960au cynnar er mwyn manteisio ar eu gwerth fel metel sgrap, achubwyd rhai a symudwyd hwy i Ddociau y Barri.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 21 Chwefror 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. Ffordd Sistersiaidd Archifwyd 2007-08-11 yn y Peiriant Wayback ar wefan Cyngor Casnewydd

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Caerffili. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato