Maesycwmer

pentref ym Mwrdeistref Sirol Caerffili

Pentref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Caerffili, Cymru, yw Maesycwmer, hefyd Maesycwmwr[1] (Saesneg: Maesycwmmer).[2] Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 2,141. Ni chredir i'r enw ddod o'r gair "cymer", sef y lleoliad lle mae dwy afon yn uno. Credir mai tarddiad yr enw ydy'r hen air Cymraeg "cwmwr" sef pont droed. Dyma'r bont a ddefnyddiai'r Parch Shôn Shincyn i groesi'r afon i'w dŷ (Maesycwmmwr House) a leolwyd ar ochr ddwyreiniol yr afon ac a godwyd yn 1826. Yr enw a ddefnyddir hefyd ar fapiau'r Degwm yn 1940 oedd Maesycwmwr.[3] Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rhianon Passmore (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Chris Evans (Llafur).[4][5]

Maesycwmwr
Wheel O Drams Maesycwmmer Andy Hazell.jpg
Y Wheel o Drams ym Maesycwmer, gan Andy Hazell.
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCaerffili Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.633°N 3.233°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000908 Edit this on Wikidata
Cod OSST1594 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhianon Passmore (Llafur)
AS/auChris Evans (Llafur)
Map

Saif Maesycwmer bum milltir i'r gogledd o dref Caerffili, ar lan ddwyreiniol afon Rhymni, gyferbyn a Hengoed ar y lan orllewinol. Gerllaw mae Traphont Hengoed.

Cyfrifiad 2011Golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8][9]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Maesycwmer (pob oed) (2,242)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Maesycwmer) (223)
  
10.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Maesycwmer) (1996)
  
89%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Maesycwmer) (344)
  
36.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

CyfeiriadauGolygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 21 Chwefror 2022
  3. "Gwefan Saesneg am enwau llefydd yng Nghwm Rhymni: mentercaerffili.org". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-22. Cyrchwyd 2011-12-08.
  4. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  5. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  6. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  8. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  9. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]