Pont Life
Mae Pont Life (Gaeleg: Droichead na Leathphingine, neu Droichead na Life) yn bont ar gyfer cerddwyr ar draws Afon Life ynghanol Dulyn, Iwerddon, a adeiladwyd ym Mai 1816.[1] Pont haearn bwrw yw hi ac fe'i gwnaethpwyd yn Swydd Amwythig.[2]
Math | pont droed |
---|---|
Agoriad swyddogol | Mai 1816 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dulyn |
Gwlad | Gweriniaeth Iwerddon |
Cyfesurynnau | 53.3461°N 6.263°W |
Hyd | 43 metr |
Deunydd | Haearn bwrw, pren, Sment |
Enw gwreiddiol y bont oedd Pont Wellington, ond newidiwyd ei henw i 'Bont Life'. Enw Saesneg mwy gyffredin y bont yw Ha’penny Bridge.
Hanes
golyguRoedd gan William Walsh 7 fferi, i gyd mewn cyflwr gwael, dros yr afon cyn adeiladwyd y bont. Gorfodwyd Walsh trwsio’r fferiau neu adeiladu pont. Ei ddewis oedd adeiladu’r bont, a chafodd yr hawl i ofyn am doll o hanner geiniog, dros gyfnod o gant mlynedd.[3] Codwyd y toll i geiniog a hanner hyd at 1919, pan ddiddymodd y toll.
Comisiynwyd y bont gan maer Dulyn, John Claudius Beresford gyda Chwmni Coalbrookdale o Loegr, yn defnyddio haearn o Sliabh an Iarainn, Leitrim[4] Gwnaethpwyd y bont yn 18 darn ac anfonwyd i Ddulyn. Cynlluniwyd y bont a goruchwiliwyd y gwaith adeiladu gan John Windsor[5].
Atgyweiriad
golyguAtgyweiriwyd y bont yn 2001 gan gwmni Harland a Wolff, hyd at mis Rhagfyr.[6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan yr Irish Times
- ↑ Gwefan Archiseek
- ↑ Gwefan yr ‘Irish Independent’; erthygl ar 19 Mai 2016
- ↑ "Gwefan y Leitrim Observer". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-11-24. Cyrchwyd 2020-12-31.
- ↑ Shropshire Star, 20 Mai 2016
- ↑ Gwefan BBC