Porth Clais

harbwr yn Sir Benfro

Hen borthladd a chulfan môr sy'n gorwedd tua milltir i'r de-orllewin o Dyddewi, Sir Benfro, yw Porth Clais.[1] Gorwedd y culfan, sy'n ffurfio cwm bychan cul gyda ffrwd fechan Afon Alun yn rhedeg trwyddo, ar lan Bae Sain Ffraid.

Porth Clais
Mathharbwr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.868°N 5.28°W Edit this on Wikidata
Cod OSSM742238 Edit this on Wikidata
Map
Harbwr Porth Clais
Cwt Harbwr Feistr Porth Clais

Ers amser cynnar iawn bu Porth Clais yn un o borthladdoedd Tyddewi ac mae'n bosibl fod nifer o genhadon a myneich wedi ei ddefnyddio dros y canrifoedd, efallai ar ôl teithio o lefydd mor bell i ffwrdd â Llydaw ac Iwerddon. Dywedir i Ddewi Sant gael ei fedyddio mewn ffynnon yno - Ffynnon Ddewi - gan yr 'esgob' Elvis o Munster.[2] Mae'n bosibl fod y clais (Cymraeg Canol cleis) yn yr enw yn deillio o'r gair clas (mynachlog Geltaidd).[3]

Yn ôl y chwedl Culhwch ac Olwen (cyn 1100?), glaniodd y Twrch Trwyth ym Morth Clais (Porth Cleis yn y chwedl) pan ddychwelodd i Gymru o Iwerddon a chafodd ei hela wedyn am yr ail dro gan Arthur a'i farchogion drwy dde Cymru a Chernyw.[4]

Tua'r un adeg ag y lluniwyd Culhwch ac Olwen yn ei ffurf bresennol, glaniodd Gruffudd ap Cynan yno yn 1081, o'i alltudiaeth yn Nulyn, i ymuno â Rhys ap Tewdwr yn erbyn y Normaniaid.[5]

Gwyddys i harbwr bychan o gerrig gael ei adeiladau ym Mhorth Clais tua'r 12g. Datblygodd yn harbwr prysur yn yr Oesoedd Canol. Cludai llongau arfordirol lo yno cyn 1400. Yn y cyfnod modern cynnar ceir cofnodion am fewnforio coed o Iwerddon ac allforio gwenith a chnydau eraill i ddinasoedd fel Bryste. Codwyd odynnau calchfaen yno yn y 18g.[6]

Cyfleusterau

golygu

Ceir maes parcio ym Mhorth Clais ar gyfer ymwelwyr heddiw. Rhed Llwybr Arfordir Penfro ar hyd y bae.

Odynnau calch Porth Clais

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. British Place Names; adalwyd 25 Awst 2021
  2. Christopoher John Wainwright, A Guide to the Pembrokeshire Coast Path (Constable, 1986), tt. 130-31.
  3. D. Simon Evans (gol.), Historia Gruffud vab Kenan (Caerdydd, 1977), t. 73.
  4. Rachel Bromwich a D. Simon Evans (gol.), Culhwch ac Olwen, t. lxxxix et passim.
  5. D. Simon Evans (gol.), op. cit., t. 73.
  6. Christopoher John Wainwright, op. cit., tt. 130-31.