Porth Ysglaig
Traeth bach graenog a charegog ar arfordir gogleddol Llŷn
Traeth bach graenog a charegog braf ar arfordir gogleddol Llŷn, Gwynedd, Cymru yw Porth Ysglaig (hen enw Porth Ysgraig neu Borth yr Haig[1]), cyfeirnod grid SH228375, wedi ei leoli rhwng Porth Cychod (gweler Porth Ysgaden) a Thraeth Tywyn, tua milltir o waith cerdded braf o bentref Tudweiliog. Mae posib ei gyrraedd drwy ddilyn Llwybr Arfordir Cymru. Mae'r traeth yma'n aber i Afon Felin sydd a'i tharddiad yn uwch i fyny heibio Pwllgoed ym mhen pellaf y pentref.
Math | traeth |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Cyfesurynnau | 52.905638°N 4.636306°W |
Math | traeth |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Cyfesurynnau | 52.905638°N 4.636306°W |
Mae maes carafanau bach ar drothwy'r traeth sydd yn tueddu i amharu ar yr olygfa.