Mynydd Cefnamwlch

bryn (183m) yng Ngwynedd

Bryn yn Llŷn, Gwynedd, yw Mynydd Cefnamwlch. Saif rhwng pentrefi Sarn Mellteyrn, i'r de, a Tudweiliog, i'r gogledd. Mae bwlch yn gorwedd rhyngddo a Carn Fadryn, i'r dwyrain. Llifa Afon Soch, sy'n tarddu wrth waelod ei lethrau dwyreiniol, heibio i'r bryn ar ei ffordd i'r môr yn Abersoch.

Mynydd Cefnamwlch
Mathcopa, bryn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr183 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.873329°N 4.631489°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH2267833912 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd93 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaMynydd Rhiw Edit this on Wikidata
Map
Ar gopa Mynydd Cefnamwlch
Coetan Arthur, Cefnamwlch

Bryn 182m o uchder ydyw o ddifrif, ond 'Mynydd Cefnamwlch' yw ei enw diolch i barch bobl lleol amdano. Saif tua dwy filltir o lannau ogleddol Llŷn, gyda'r brif ffordd rhwng Tudweiliog a Llangwnnadl (B4417, ffordd eilaidd) ar ei hochr ogleddol. Tua hanner milltir ar hyd y ffordd o droed Mynydd Cefnamwlch tuag at Llangwnnadl ceir troad i lawr i'r dde tuag at blasdy Plas ym Mhenllech a'i heglwys hynafol. Yn fforchio o'r B4417 ym Meudu Bigin a throi i gyfeiriad y dwyrain mae ffordd gul tuag at Sarn Mellteyrn, Bryncroes a Botwnnog.

Wrth ddod allan o'r coed sydd ar naill ochr i'r B4417 fe welir Coetan Arthur/Cromlech Cefnamwlch ar y dde mewn cae cyfagos, enghraifft dda o gromlech o'r Oes Neolithig (rhwng 2000 i 4000CC) ac mae'n bosib cerdded ato ac edrych draw ar yr olygfa tuag at Garn Fadryn, Eryri a Môn. Cyn cyrraedd pentref Sarn Mellteyrn mae olion eglwys San Pedr ar y chwith; fe'i dymchwelwyd yn y 1990au.

Gorwedd ystad Cefnamlwch i'r gogledd o'r bryn. Ceir siambr gladdu o Oes yr Efydd ar ei lethrau gogleddol, ger y B4417.