Coetan Arthur/Cromlech Cefnamwlch
Cromlech o'r Oes Neolithig sy'n sefyll hanner ffordd i fyny llethr gogleddol Mynydd Cefnamwlch, Tudweiliog, Llŷn, Gwynedd, yw Coetan Arthur. Fe'i hadnabyddir hefyd yn ôl yr enw Cromlech Cefnamwlch. I'w chyrraedd bydd gofyn trafeulio ar hyd y B4417 o gyfeiriad Llangwnnadl neu Dudweiliog a throi oddi arni ym Meudy Bigin/Bigyn ble mae'r lôn yn fforchio ac yn ymuno â Lôn Trigwm i gyfeiriad Sarn Mellteyrn. Tua 200m ar hyd Lôn Trigwm mae adwy i un o gaeau Cefnamwlch ar y dde ac fe welwch arwydd pren yn dynodi'r ffordd i fyny lethr Mynydd Cefnamwlch a thuag at y gromlech. Bydd y gromlech i'w gweld yn glir o'ch blaen. Noder er nad yw graddfa'r esgyniad yn sylweddol, gall gerdded i fyny'r cae tuag at y gromlech fod yn ddipyn o brawf i bobl nad ydynt yn arfer cerdded llethrau! Noder hefyd fod y gromlech o fewn cae amaethyddol ac yn aml bydd gwartheg yn pori yno a bydd y tir yn fwdlyd yn ystod tywydd garw.
Y gromlech ar ddiwrnod heulog o aeaf. | |
Math | carnedd gellog, safle archeolegol cynhanesyddol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.879198°N 4.632026°W |
Cod OS | SH22973456 |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | CN002 |
Mae'r gromlech ei hun wedi ei hamgylchynu gan ffens fodern haearn i'w hamddiffyn ond mae carreg fawr wen wrth ei hochr lle mae posib eistedd a mwynhau'r gromlech a'r olygfa tua'r gogledd. Ar ddiwrnod clir mae posib gweld yn bell heibio Garn Fadryn, yr Eifl a mynyddoedd Eryri a thua Ynys Môn.
Hanes a chwedlau yng nghlwm â'r gromlech
golyguYn ôl pob tebyg, defnyddiwyd yr heneb hon gan y Celtiaid ar gyfer defodau crefyddol ac i gladdu neu gofio am y meirw.
Wrth gwrs does dim tystiolaeth gennym bellach o phwy a pham yr adeiladwyd y gromlech yma ar lethr gwelltog Mynydd Cefnamwlch gan yr hendeidiau cynnar, ond mae gennym chwedlau sy'n ein clymu ni i'r adeilad hynafol cyntefig unig yma:
"Coetan Arthur – Dywed traddodiad i Arthur luchio'r Penllech, y 'goeten', o ben Garn Fadrun i Fynydd Cefnamwlch a bod ei wraig wedi cario'r tair carreg yno yn ei barclod a'u gosod ar eu pennau i ddal y garreg fawr."[1]
Ac yna mae esboniad arall ar gael yn llyfr W. Arvon Roberts, Lloffion Llŷn:
"Yn ôl yr hanes, cludwyd y cerrig wyth milltir i ffwrdd o Fynyddoedd yr Eifl, ac mae traddodiad bod un o'r brenhinoedd Cymreig wedi ei gladdu oddi tanynt." [2]
Yna, mae ychydig mwy o wybodaeth am strwythur gwreiddiol y gromlech (yn wyrthiol!) ar gael:
"The main feature is a large rectangular capstone, with flat underside and ridged top, carried on the supporters. The S.W. side of the chamber may originally have been dosed by a fourth supporter, now prostrate, and dry walling of which a fragment remains. A large rectangular slab some 6 ft N. of the tomb may have been the capstone of another chamber." [3]
|
Llefydd eraill o ddiddordeb lleol
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gruffydd, Elfed (1998), Cyfres Broydd Cymru, Llyn, Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, pp. 18, ISBN 0863814921
- ↑ Roberts, W. Arvon (2009), Lloffion Llŷn, Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, pp. 85, ISBN 9781845272388
- ↑ (1689) Chambered Tomb, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Haf 2010, http://crwydro.co.uk/edern/penllech/cromlechi-chambered-tombs/1689-chambered-tomb