Poseidonius

(Ailgyfeiriad o Posidonius)

Roedd Poseidonius (Groeg: Ποσειδώνιος / Poseidonios), sillefir hefyd Posidonius, weithiau "o Rhodos" (ὁ Ρόδιος) neu "o Apameia" (ὁ Απαμεύς) (tua 135 CC - 51 CC), yn athronydd, gwleidydd, daearyddwr, seryddwr, hanesydd, athro ac awdur Groegaidd. Ystyried ef yn un o ddynion mwyaf galluog ei oes, gyda Aristoteles ac Eratosthenes yn un o'r ychydig a ddaeth yn agos at feistroli yr holl wybodaeth oedd ar gael yn ei gyfnod. Ysgrifennodd nifer sylweddol o lyfrau, ond dim ond rhannau sydd wedi goroesi.

Poseidonius
GanwydΠοσειδώνιος Edit this on Wikidata
135 CC Edit this on Wikidata
Apamea Edit this on Wikidata
Bu farw51 CC Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
Galwedigaethmathemategydd, seryddwr, hanesydd, athronydd, ysgrifennwr, ffisegydd, daearyddwr Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadPanaetius Edit this on Wikidata
Mudiadstoicism Edit this on Wikidata
PerthnasauMenecrates, Jason of Nysa Edit this on Wikidata

Ganed Poseidonius i deulu Groegaidd yn Apamea, dinas Rhufeinig ar Afon Orontes. Cafodd ei addysgu yn Athen, lle roedd yn un o fyfyrwyr Panaetius, pennaeth yr ysgol Stoicaidd o athroniaeth. Tua 95 CC. ymsefydlodd yn Rhodos, lle bu'n dal swyddi megis prytaneis (un o'r arlywyddion, am gyfnod o chwe mis) a llysgennad i Rufain. Roedd yn bleidiol i Rufain fel grym allai roi sefydlogrwydd mewn byd anwadal.

Teithiodd Poseidonius i nifer o wledydd ar gyfer ei ymchwiliadau: Groeg, Hispania, Gogledd Affrica, yr Eidal, Sicilia, Dalmatia, Gâl, Liguria a'r Balcanau. Bu'n astudio'r llanw yn Gades ar arfordir Hispania (Cadiz heddiw), a bu'n astudio y Celtiaid yng Ngâl, gan adrodd am bethau rhyfedd a welodd a'i lygaid ei hun, megis hoelio penglogau gelynion wrth ddrysau fel arwydd o lwyddiant mewn rhyfel. Nododd fodd bynnag barch y Celtiaid ar y Derwyddon, ac ystyriai ef hwy'n athronwyr o fath. Ysgrifennodd lyfr ar wlad y Celtiaid, sydd bellach ar goll ond a ddefnyddiwyd gan nifer o awduron erall, megis Timagenes, Iŵl Cesar, Diodorus Siculus a Strabo.

Athroniaeth oedd y pwnc pwysicaf i Poseidonius, ac ystyriai'r gwyddorau eraill yn ganghennau o athroniaeth. Roedd yn ddilynwr selog yr ysgol Stoicaidd mewn athroniaeth.

Llyfryddiaeth golygu

Gweler hefyd golygu

  • Geodedd: cangen o fathemateg gymhwysol