Francis Edwards

barwnig ac aelod seneddol

Roedd Syr (Frank) Francis Edwards (28 Ebrill, 1852 - 10 Mai, 1927) yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig ac yn Aelod Seneddol dros etholaeth Sir Faesyfed[1]

Francis Edwards
Ganwyd28 Ebrill 1852 Edit this on Wikidata
Aberdyfi Edit this on Wikidata
Bu farw10 Mai 1927 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcyfreithiwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata

Bywyd Personol golygu

Ganwyd Frank Edwards yn Aberdyfi ym 1852, yn fab i Edward Edwards, Tafarnwr, ac Ann (née Jones) ei wraig, cafodd ei fagu yn Llangollen lle'r oedd ei dad yn cadw Gwesty'r Hand[2]

Cafodd ei addysgu yn Ysgol yr Amwythig a Choleg yr Iesu Rhydychen.[3]

Priododd Catherine Davies ym 1880, yr oedd hi yn ferch i'r diwydiannwr David Davies, Maesyffynon, Aberdâr[4]. Bu iddynt dau blentyn, mab a fu farw'n faban a merch. Bu'r Ledi Edwards farw 10 Mai, 1915.

Gyrfa golygu

Hyfforddodd Edwards fel bargyfreithiwr a bu'n gweithio mewn siambrau yn Llundain am ychydig flynyddoedd. Ar ôl priodi ymadawodd a byd y gyfraith gan symud i Arthog, Sir Feirionydd i redeg ystâd ei dad yng nghyfraith a'i ymgais i ddatblygu'r diwydiant chwareli llechi yno. Ym 1888 rhoddwyd y gorau i'r busnes llechi a symudodd i Aberdâr gan ddod yn bartner yng nghwmni glofaol ei ddiweddar tad yng Nghyfraith a dod yn un o berchnogion a rheolwyr Pwll Glo Trerhondda.[5]

Gyrfa Wleidyddol golygu

Cafodd Edwards ei ethol yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros Sir Faesyfed ym 1892. Roedd yn perthyn i adain y cenedlaetholwyr Cymreig o'r Blaid Ryddfrydol ac yn gefnogwr brwd i achos Datgysylltu'r Eglwys yng Nghymru er gwaetha'r ffaith ei fod yn Aelod o'r Eglwys Anglicanaidd gyda dau o'i frodyr yn offeiriaid yn yr Eglwys wladol. Ym 1894 ymunodd Edwards gyda David Lloyd George, David Alfred Thomas a Herbert Lewis i ymwrthod a Chwip y Blaid Ryddfrydol mewn protest am oedi Llywodraeth yr Arglwydd Rosebery wrth gyflwyno'r mesur Datgysylltu. Pan ddatgysylltwyd yr Eglwys ym 1920 cefnder iddo yr Hybarch Alfred George Edwards, Esgob Llanelwy, daeth yn Archesgob cyntaf Yr Eglwys yng Nghymru.

Cafodd Edwards ei drechu yn etholiad 1895. Cafodd ei benodi yn Siryf Sir Faesyfed ym 1898. Safodd eto ym Maesyfed yn etholiad 1900 ar lwyfan o wrthwynebiad i Ryfel y Boer, gan gipio'r sedd yn ôl. Cafodd ei drechu eto yn etholiad mis Ionawr 1910 ond llwyddodd i adennill ei le yn San Steffan yn etholiad mis Ragfyr 1910 gan aros yn AS hyd ddiddymiad etholaeth Maesyfed ym 1918.

Cyfeiriadau golygu

  1. EDWARDS , Syr FRANCIS yn y Bywgraffiadur arlein [1] adalwyd 13 Ionawr 2015
  2. Newyddion Cymreig yn Y Cymro 28 Gorffennaf 1892 [2] adalwyd 13 Ion 2015
  3. THE WELSH MEMBERS yn Cardiff Times 23 Gorffennaf 1892 [3] adalwyd 13 Ion 2015
  4. Family Notices yn North Wales Express 16 Ebrill 1880 [4] adalwyd 13 Ion 2015
  5. Deheudir Cymru yn Y Drych 3 Ebrill 1890 [5] adalwyd 13 Ion 2015
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Arthur Henry John Walsh
Aelod Seneddol dros Sir Faesyfed
18921895
Olynydd:
Syr Powlett Milbank
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Syr Powlett Milbank
Aelod Seneddol dros Sir Faesyfed
1900 – Ion 1910
Olynydd:
Syr Charles Dillwyn-Venables-Llewellyn
Rhagflaenydd:
Syr Charles Dillwyn-Venables-Llewellyn
Aelod Seneddol dros Sir Faesyfed
Rhag 19101918
Olynydd:
diddymu'r etholaeth
Senedd y Deyrnas Unedig