Prasarita Padottanasana

asana mewn ioga hatha

Asana o fewn ioga yw Prasarita Padottanasana (Sansgrit: प्रसारित पादोत्तानासन, IAST: Prasārita Pādottānāsana) neu Safiad Eithafol ar Led ac Ymlaen. Asana sefyll ydyw mewn gwirionedd a chaiff ei ddefnyddio mewn modern ioga fel ymarfer corff .[1][2]

Prasarita Padottanasana
Enghraifft o'r canlynolasana Edit this on Wikidata
Mathasanas sefyll Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Geirdarddiad golygu

Daw'r enw o'r Sanskrit Prasārita (प्रसारित) sy'n golygu "lledaenu allan", Pada (पाद) sy'n golygu "troed", Uttan (उत्तान) sy'n golygu "estynedig", ac Asana (नत), sef 'osgo neu siap y corff'.[3]

Nid yw'r ystum i'w gael mewn testunau ioga hatha canoloesol. Fe'i disgrifir yn yr 20g gan Krishnamacharya yn y cyfrolau Ioga Makaranda ac Yogasanagalu, a hefyd ganPattabhi Jois yn ei Ashtanga Vinyasa Yoga,[4] a BKS Iyengar yn ei Light on Yoga.[2]

Disgrifiad golygu

Mae hwn yn ystum, neu asan sefyll gyda'r traed yn llydan ar led, a'r corff wedi'i blygu ymlaen ac i lawr nes fod y pen yn cyffwrdd â'r ddaear a gosodir y dwylo'n fflat ar y ddaear, gyda blaenau'r bysedd yn gyflin â'r sodlau, a'r breichiau wedi'u plygu ar ongl sgwâr.[1][2][5]

Amrywiadau golygu

 
Parivritta Prasarita Padottanasana, yr amrywiad tro
 
Amrywiad

Yn Ioga ashtanga vinyasa, nodir pedair ffurf amrywiol ar yr asana, a ystyrir yn sylfaenol i'r arddull hon o ioga.[6][7] Gellir gosod pâr o flociau ioga o dan y dwylo i ganiatáu i'r rhai sydd â llinynnau traed tynn gyflawni'r ystum heb gymaint o straen.[8]

Yr amrywiad tro (neu cylchdro) o'r ystum yw Parivritta Prasarita Padottanasana. Nid yw safle'r coesau wedi newid, ond mae'r corff yn cael ei gylchdroi fel bod un llaw ar y llawr, tra bod y fraich arall, yn union uwchben y llaw honno, yn pwyntio'n syth i fyny, Dylai'r iogi ganolbwyntio ar bwynt naill ai i'r ochr neu i fyny.[9][10][11]

Ffurf lledorweddol yr asana yw Supta Konasana.[12]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Mehta, Silva; Mehta, Mira; Mehta, Shyam (1990). Yoga: The Iyengar Way. Dorling Kindersley. tt. 42–43.
  2. 2.0 2.1 2.2 Iyengar, B. K. S. (1979) [1966]. Light on Yoga: Yoga Dipika. Unwin Paperbacks. tt. 81–85.
  3. Sinha, S. C. (1996). Dictionary of Philosophy. Anmol Publications. t. 18. ISBN 978-81-7041-293-9.
  4. Sjoman, Norman E. (1999) [1996]. The Yoga Tradition of the Mysore Palace. Abhinav Publications. tt. 100–102. ISBN 81-7017-389-2.
  5. Vernon, Rama Jyoti (2014). Yoga: The Practice of Myth and Sacred Geometry. Lotus Press. t. 167. ISBN 978-0-940676-26-8.
  6. "Six Standing Poses become fundamental positions for Ashtanga Yoga". Ashtanga Yoga Institute. Cyrchwyd 28 Tachwedd 2018.
  7. MacGregor, Kino (2013). The Power of Ashtanga Yoga: Developing a Practice That Will Bring You Strength, Flexibility, and Inner Peace --Includes the complete Primary Series. Shambhala. t. 373. ISBN 978-0-8348-3041-7.
  8. Carpenter, Annie (16 Mawrth 2012). "Stretch Skillfully: Wide-Legged Standing Forward Bend". Yoga Journal. Cyrchwyd 7 Ionawr 2022.
  9. "Parivrtta Prasarita Padottanasana". Yogapedia. Cyrchwyd 7 Ionawr 2022.
  10. "Parivrtta Prasarita Padottanasana". Yogic Way of Life. Cyrchwyd 7 Ionawr 2022.
  11. "How to Do Revolved Wide-Legged Standing Forward Fold in Yoga". Everyday Yoga. Cyrchwyd 7 Ionawr 2022.
  12. "Supta Konasana". Ashtanga Vinyasa Yoga. Cyrchwyd 4 Chwefror 2019.