Prif-feirdd Eifionydd

Hanes a gwaith chwech o brif feirdd Eifionydd

Mae Prif-feirdd Eifionydd, eu hanes yn syml, ynghyd a detholion cymwys i blant, a'u gwaith yn llyfr i ddisgyblion cynradd a chanolradd gan Edward David Rowlands. Cyhoeddwyd y llyfr gyntaf ym 1914 gan Gwmni y Cyhoeddwyr Cymraeg, Caernarfon.[1]

Prif-feirdd Eifionydd
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurEdward David Rowlands Edit this on Wikidata
CyhoeddwrCwmni y Cyhoeddwyr Cymreig Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Dyddiad cyhoeddi1914 Edit this on Wikidata
Genreblodeugerdd, cofiant Edit this on Wikidata
Lleoliad cyhoeddiCaernarfon Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata

Roedd Edward David Rowlands (1880 - 1969) yn ysgolfeistr ac awdur. Cafodd ei eni yn Llanuwchllyn a'i addysgu yn y Coleg Normal, Bangor. Bu'n brifathro ysgolion cynradd Chwilog a Chyffordd Llandudno.[2] Ymysg ei lyfrau eraill mae

  • Dial y Lladron (1934)
  • Bro'r Eisteddfod (sef Bae Colwyn 1947)
  • Dyffryn Conwy a'r Creuddyn (1948)
  • Atgofion am Lanuwchllyn (1975, cyhoeddwyd ar ôl ei farw)

Trosolwg

golygu

Mae'r llyfr yn cynnwys bywgraffiadau ac enghreifftiau o waith chwech o feirdd oedd â chysylltiad ag Eifionydd. Mae hefyd yn cynnwys cyflwyniad i'r gynghanedd a geirfa.

Penodau

golygu

Y Beirdd sy'n cael eu trafod yw

1 Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) a'i gerddi:

2 Peter Jones (Pedr Fardd) a'i gerddi:

3 David Owen (Dewi Wyn o Eifion) a'i gerddi

4 John Thomas (Siôn Wyn o Eifion) a'i gerddi:

5 Ebenezer Thomas (Eben Fardd) a'i gerddi:

5 Morris Williams (Nicander) a'i gerddi:

7 EMYNAU

Detholiad o emynau gan yr un beirdd

8 Y Cynganeddion

Cyflwyniad byr i'r cynganeddion symlaf, er mwyn i'r disgyblion cael clywed "clec" y gynghanedd. Y bwriad yw iddynt allu mwynhau miwsig barddoniaeth yn y mesurau caethion, nid dysgu'r rheolau'n fanwl er mwyn cyfansoddi.

9 Problemau mewn rhifyddiaeth ar gân

Cyfres o bosau ar fedr ac odl gan Evan Pritchard (Ieuan Lleyn) a Pedr Fardd ee:

O'R defaid tra breision, eu hanner oedd wynion,
Eu chwarter yn dduon, gan Simon ge's i,
Eu chweched yn gochion, a phedair yn frithion,
'Sawl un a roes Simon Rhys imi?

9 Geirfa

Beirniadaeth

golygu

Fel rhan o adolygiad o'r llyfr Gŵyr Eifionydd gan William Rowland, Prifathro Ysgol Porthmadog, mae J T Jones yn ddweud yn y cylchgrawn Lleufer:[3]

Mae'n rhyfedd meddwl bod deugain mlynedd er pan gyhoeddwyd Prif-Feirdd Eifionydd gan E. D. Rowlands. Nid hawdd anghofio'r gyfrol fechan werthfawr honno, llun y barfog a'r pruddglwyfus Eben Fardd ar ei chlawr, a'r lluniau trawiadol o'r beirdd eraill y tu mewn.

Dyma'r lluniau

Argaeledd

golygu

Mae'r llyfr wedi bod allan o brint ers degawdau. Gan fod E. D. Rowlands wedi marw ym 1969, bydd y rhan fwyaf o'i lyfrau yn dod allan o hawlfraint ar 1 Ionawr 2040 yng ngwledydd Prydain. Cyhoeddwyd Prif-feirdd Eifionydd dros 95 o flynyddoedd yn ôl, gan hynny mae allan o hawlfraint o dan gyfreithiau'r Unol Daleithiau, y wlad lle mae Wicidestun yn cael ei gyhoeddi. Felly mae modd ei ddarllen ar Wicidestun—Prif Feirdd Eifionydd

Cyfeiriadau

golygu
  1. Rowlands, E., D. (1914). Prif-feirdd Eifionydd, eu hanes yn syml, ynghyd a detholion cymwys i blant, a'u gwaith. Caernarfon: suyddfa "Cymru".
  2. "ROWLANDS, EDWARD DAVID (1880 - 1969), ysgolfeistr ac awdur | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2024-05-29.
  3. Llyfrau Newyddion, Lleufer : cylchgrawn Cymdeithas Addysg y Gweithwyr yng Nghymru. Cyf. 9, rh. 3, Hydref 1953