Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu)

bardd Cymreig

Bardd ac emynydd Cymraeg oedd Robert Williams, mwy adnabyddus fel Robert ap Gwilym Ddu (6 Rhagfyr 1766 - 11 Gorffennaf 1850).[1]

Robert Williams
FfugenwRobert ap Gwilym Ddu Edit this on Wikidata
Ganwyd6 Rhagfyr 1766 Edit this on Wikidata
Sir Gaernarfon, Llanystumdwy Edit this on Wikidata
Bu farw11 Gorffennaf 1850 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, bardd, ffermwr Edit this on Wikidata
Capel y Beirdd ger Rhoslan, Cricieth; lle mynychodd Robert ar adegau, er nad oedd yn aelod yno.

Bywyd a gwaith golygu

 
Ffermdy'r Betws Fawr, cartref y bardd.

Ganed ef yn ffermdy'r Betws Fawr ym mhlwyf Llanystumdwy yn Eifionydd. Enw'i fam oedd Jane (neé Parry) a'i dad oedd Williams Williams; roedd ganddo ddwy chwaer ac un brawd a gwyddwn i un o'i chwiorydd symud i Lanbedr ar ôl priodi. Bu'n ffermio yn y "Betws Fawr" am y rhan fwyaf o'i oes. Priododd ferch ifanc o'r enw Catrin Elizabeth pan oedd tua 50 oed, a chafodd un ferch, Jane Elizabeth, ond bu hi farw yn 17 oed yn 1834 o'r diciau (neu y ddarfodigaeth).[2] Mae marwnad ei thad iddi yn adnabyddus.

Roedd Robert yn gyfaill i'r bardd Dewi Wyn o Eifion ac i'r pregethwr J. R. Jones, Ramoth.[1]

Ystyrir ef yn un o feirdd gorau ei gyfnod yn y mesurau caeth, ac mae nifer o'i emynau yn boblogaidd, yn enwedig "Mae'r gwaed a redodd ar y groes":

Mae'r gwaed a redodd ar y groes
O oes i oes i'w gofio;
Rhy fyr yw tragwyddoldeb llawn
I ddweud yn iawn amdano. [...]

Llyfryddiaeth golygu

  • Gardd Eifion (1841). Casgliad o waith y bardd.
  • Cybi (gol.), Lloffion yr Ardd, barddoniaeth anghyhoeddedig Robert ab Gwilym Ddu (1911)

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.