Proinsias Mac Cana

Ysgolhaig Celtaidd o Iwerddon oedd Proinsias Mac Cana (6 Gorffennaf 192621 Mai 2004).

Proinsias Mac Cana
Ganwyd6 Gorffennaf 1926 Edit this on Wikidata
Belffast Edit this on Wikidata
Bu farw21 Mai 2004 Edit this on Wikidata
Dulyn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethieithydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auDerek Allen Prize Edit this on Wikidata

Fe'i ganwyd ym Melffast. Roedd ei rieni Catholig yn gefnogwyr cenedlaetholdeb Gwyddelig. Mynychodd Brifysgol y Frenhines, Belffast, gan raddio gyda gradd mewn ieithoedd Celtaidd ym 1948. Ar ôl blwyddyn yn y Sorbonne, cwblhaodd radd meistr ym Mhrifysgol y Frenhines, lle daeth yn ddarlithydd cynorthwyol ym 1951. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, enillodd ei ddoethuriaeth. Ym 1955, symudodd i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, i ddod yn ddarlithydd cynorthwyol mewn Gwyddeleg Cynnar. Fe'i dyrchafwyd yn ddarlithydd yno ym 1957. Yn Aberystwyth dysgodd Hen Gymraeg a Chymraeg Canol. Ym 1961 fe'i penodwyd yn Athro Astudiaethau Celtaidd yn Sefydliad Astudiaethau Uwch Dulyn (Dublin Institute for Advanced Studies) a dwy flynedd yn ddiweddarach daeth yn Athro Cymraeg yng Ngholeg Prifysgol Dulyn, lle daeth yn Athro Gwyddeleg Gynnar ym 1971. Ym 1985, dychwelodd i Sefydliad Astudiaethau Uwch Dulyn, ac ymddeolodd ym 1996 wedi hynny cael ei benodi i athro emeritws. Roedd yn Llywydd Academi Frenhinol Iwerddon rhwng 1979 a 1982.[1]

Ei brif faes ymchwil oedd chwedlau Gwyddeleg Cynnar. Yn ôl yr Irish Times: "Ehangodd a dyfnhaodd y ddealltwriaeth o'r cysylltiadau rhwng ieithoedd, diwylliannau a thraddodiadau pobloedd Celtaidd yn Iwerddon a Phrydain. A thrwy ei ysgolheictod a'i ddysgeidiaeth roedd yn ddehonglwr o'r Gwyddelod i'r Cymry ac o'r Cymry i'r Gwyddelod."[2]

Llyfryddiaeth

golygu
  • Celtic Mythology (Llundain, 1970)
  • The Learned Tales of Medieval Ireland (Dulyn, 1980)
  • The Cult of the Sacred Centre: Essays on Celtic Ideology (Dulyn, 2011)

Cyfeiriadau

golygu
  1. W. J. McCormack,"Professor Proinsias Mac Cana", The Independent, 2 Mehefin 2004. Adalwyd 17 Rhagfyr 2020.
  2. "He broadened and deepened the understanding of the links between the languages, cultures and traditions of the Celtic peoples of Ireland and Britain. And through his scholarship and teaching he was an interpreter of the Irish to the Welsh and of the Welsh to the Irish." "A respected scholar of the Celtic languages, culture and traditions", The Irish Times, 29 Mai 2004. Adalwyd 17 Rhagfyr 2020.