Y Punch Cymraeg

(Ailgyfeiriad o Punch Cymraeg)

Cylchgrawn dychanol Cymraeg o'r 19g oedd Y Punch Cymraeg. Fe'i bwriedid fel math o fersiwn Cymreig o'r cylchgrawn Seisnig enwog Punch. Fe'i cyhoeddid yng Nghaergybi.

Y Punch Cymraeg
Enghraifft o'r canlynolcylchgrawn, cylchgrawn Edit this on Wikidata
Rhan oCylchgronau Cymru Ar-lein Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1858 Edit this on Wikidata
Lleoliad cyhoeddiCaergybi Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
 
Lewis Jones

Lawnsiwyd Y Punch Cymraeg ar Ionawr 1af, 1858. Y sylfaenwr a golygydd cyntaf oedd Lewis Jones, o Gaernarfon yn wreiddiol ond yn byw yng Nghaergybi, a ymfudodd yn nes ymlaen i Batagonia lle bu ganddo ran bwysig yn hanes sefydlu'r Wladfa. Ymunodd y Parch. Evan Jones, Caernarfon, yn fuan ar ôl sefydlu'r cylchgrawn. Roedd y ddau ŵr hyn yn gyd-olygyddion yn y swyddfa yng Nghaergybi ac yn ysgrifennu cyfran sylweddol o'r erthyglau.

Cyhoeddiad pythefnosol o 32 tudalen oedd Y Punch Cymraeg, a'i bris oedd ceiniog. Cafodd dderbyniad da a chyrhaeddodd uchafbwynt cylchrediad o dros 8,000 o gopïau.

Ond wynebodd y cylchgrawn broblemau ariannol, er hynny. Ymadawodd Evan Jones yn haf 1859 ac er iddo barhau am gyfnod daeth y cylchgrawn i ben yn weddol fuan ar ôl hynny. Er mai byr oedd ei barhad, roedd yn fenter arloesol a greodd gryn dipyn o gynnwrf yng Nghymru oherwydd miniogrwydd yr erthyglau am rai o enwogion y dydd a ymylai ar fod yn enllibus weithiau.

Ffynhonnell

golygu
  • T. M. Jones (Gwenallt), Llenyddiaeth fy Ngwlad, sef hanes y newyddiadur a'r cylchgrawn Cymreig... (Treffynnon, 1893)