Y Sffincs Mawr
Mae'r Sffincs Mawr yn heneb o'r Hen Aifft sydd yn rhan o safle Necropolis Giza ger Cairo yng ngwlad gyfoes yr Aifft. Mae'n sefyll mewn lle isel i'r de o Byramid y Pharo Khafre (Chephren) ar lan orllewinol Afon Nîl.
Math | sphinx, atyniad twristaidd, safle archaeolegol |
---|---|
Sefydlwyd |
|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Necropolis Giza, Yr Aifft |
Sir | Giza |
Gwlad | Yr Aifft |
Uwch y môr | 23 metr |
Cyfesurynnau | 29.97527°N 31.13768°E |
Hyd | 73.5 metr |
Cyfnod daearegol | yr Hen Aifft |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth yr Hen Aifft |
Deunydd | calchfaen |
Mae'r Sffincs yn gerflun carreg o greadur gyda phen dynol a chorff llew. Dyma'r cerflun coffaol mwyaf yn yr Henfyd; mae ei gorff yn 200 troedfedd (60m) o hyd a 65 troedfedd (20m) o uchder. Mae ei wyneb yn 13 troedfedd (4m) o led.
Mae casgliad o dystiolaeth archeolegol a daearegol yn dangos bod y Sffincs yn llawer hŷn na 4ydd Brenhinllin yr Hen Aifft (2575-2467 CC) a'i bod wedi ei adfer gan y Pharo Khafre yn ystod ei deyrnasiad ef (tua 2558–2532 CC).
Mae'r enw Sffincs yn golygu Crogwr ond nid yw pwrpas y Sffincs yn hysbys. Mae rhai archeolegwyr yn awgrymu ei fod yn gofeb i Pharo ac eraill ei fod yn gweithredu fel rhyw fath o dalismon neu warcheidwad y duwiau, tra fo ysgolheigion eraill yn credu bod y Sffincs yn ddyfais ar gyfer arsylw seryddol ac yn nodi safle'r haul yn codi ar ddiwrnod Alban Eilir yng nghytser Leo / y Llew.