Pyridocsin
Cyfansoddyn ydy pyridocsin (neu fitamin B7 i ddefnyddio'i enw cyffredin); un o aelodau symlaf teulu fitamin B. Mae'n arbennig o dda am gynorthwyo'r corff i gadw lefelau potasiwm a sodiwm yn rheolaidd yn ogystal â hyrwyddo chynhyrchu celloedd coch y gwaed. Mae'n cynorthwyo'r galon hefyd drwy leihau homocysteine. Ceir peth tystiolaeth y gall pyridocsin gynorthwyo plant araf, yn ogystal ag atal dandryff, y clewri (ecsema) a'r cengroen (psoriasis). Ar ben hyn i gyd, gall gadw balans yr hormonau mewn merched yn ogystal â chryfhau'r system imiwnedd.
Mae ei ddiffyg yn gallu achosi anemia, difrod i'r nerfau, strôc (seizure), problemau croen a briwiau yn y ceg.