R. G. Berry
gweinidog Annibynnol, awdur a dramodydd
Gweinidog Annibynnol, awdur a dramodydd oedd Robert Griffith Berry (20 Mai 1869 – 16 Ionawr 1945). Ganed yn Llanrwst, Dyffryn Conwy. Ar ôl gorffen ysgol, enillodd ysgoloriaeth i Brifysgol Bangor, lle'r aeth i gwblhau hanner cyntaf ei radd BA cyn mynd ymlaen i Goleg Bala-Bangor. Wrth astudio, bu'n ysgrifennu (dim ond yn Saesneg ar y pryd) ar gyfer cylchgrawn myfyrwyr a bu'n olygydd ar y cylchgrawn am dymor. Dechreuodd ei weinidogaeth yn Bethlehem,, Gwaelod-y-garth ar 13 Rhagfyr 1896, a phriododd Hannah Watkins o Waelod-y-garth yn Awst 1903. Fe ddaeth Berry yn amlwg fel un o arloeswyr y ddrama Gymraeg, gyda dramâu megis Ar y Groesffordd (1914), Asgre Lân (1916), a'r Ddraenen Wen (1922). Bu'n adnabyddus hefyd am gyfansoddi dramâu byrion.
R. G. Berry | |
---|---|
Ganwyd | 20 Mai 1869 Llanrwst |
Bu farw | 16 Ionawr 1945 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, dramodydd |
Llyfryddiaeth
golygu- R. G. Berry, Ail-ddechrau (Gwynedd, 19––). Dim dyddiad. [Drama]
- R. G. Berry, Ar y Groesffordd (Caerdydd, 1914). [Drama]
- R. G. Berry, Asgre lân (Caerdydd, 1916). [Drama]
- R. G. Berry, Y Ddraenen Wen (Caerdydd, 1922). [Drama]
- R. G. Berry, Dwywaith yn Blentyn (Caerdydd, 1924). [Drama]
- R. G. Berry, Yr Hen Anian (Caerdydd, 1929). [Drama]
- R. G. Berry, Noson o Farrug (Caerdydd, 1915). [Drama]
- R. G. Berry, Y Llawr Dyrnu (Aberystwyth, 1930). [Stori Fer]
- R. G. Berry, ‘Foreword’, yn William Evans, Dreams come true (Pen-y-bont, 1916).
- R. G. Berry, ‘Y Ddrama Heddiw’, Tir Newydd, rhif 11 (Chwefror, 1938), tt. 5–8.
- R. G. Berry, Eun nozveziad reo gwenn Trosiad i'r Llydaweg gan Geraint Dyfnallt Owen ac Yann-Vari PerrotNoson o Farrug (Plougerne, 1928). [Drama]
Amdano
golygu- ‘Llawr Dyrnu’, Y Brython (1 Tachwedd 1923), t. 7
- ‘Y Ddrama 1913–1936’, Barn, rhif 271 (Awst 1985), t. 295.
- Emyr Edwards, ‘Pontiwr rhwng dau gyfnod’, Barn, rhif 386 (Mawrth 1995), Atodiad Theatr, tt. 33–35.
- Huw Ethall, R. G. Berry (Abertawe, 1985).
- Don Llewellyn, ‘Y Parch. R. G. Berry (1869–1945) Capel Bethlehem, Gwaelod-y-garth, Pen-tyrch’, Y Casglwr, rhif 91 (Gaeaf 2007), 14–15.
- Fersiwn Llydaweg Noson o Farrug ar lein http://bibliotheque.idbe-bzh.org/document.php?id=eun-nozveziad-reo-gwenn-18682&l=fr Archifwyd 2020-08-20 yn y Peiriant Wayback
Cyfeiriadau
golygu- Gwyddoniadur Cymru, tt. 74–75.
- Bywgraffiadur ar-lein y Llyfrgell Genedlaethol
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod R. G. Berry ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.