Gwaelod-y-garth

pentref yng Nghaerdydd

Pentref ger Caerdydd yw Gwaelod-y-garth ("Cymorth – Sain" ynganiad ), ym mhlwyf Pentyrch. Mae wedi bod yn rhan o Ddinas Caerdydd ers 1996 a bu'n rhan o sir Morgannwg Ganol rhwng 1974 a 1996. Fe'i lleolir rhwng Caerdydd a Phontypridd.

Gwaelod-y-garth
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDinas a Sir Caerdydd Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.5472°N 3.2766°W Edit this on Wikidata
Cod OSST214824 Edit this on Wikidata
Cod postCF15 Edit this on Wikidata
Map

Yn yr 16g roedd Gwaelod-y-garth yn enwog am ei mwyngloddfeydd haearn. Agorwyd y gweithfeydd haearn cyntaf rhwng 1565 a 1625. Yn ystod y 19g ailagorwyd gweithfeydd yno gan gmwni Blackmoor Booker. Agorwyd Gwaith Glô Y Lan yn 1872 gan TW Booker a gyflogodd tua 300 o weithwyr. Ar 6 Rhagfyr 1875, oherwydd diffyg awyru, bu ffrwydriad a laddodd 12 o fechgyn. Dyma'r ddamwain waethaf o'i bath yn Ne Cymru yn y flwyddyn honno, a'r waethaf yn ardal Caerdydd erioed. Yn 2015, 140 mlynedd yn ddiweddarach, rhoddwyd torch o flodau yn y fan, i nodi'r drychineb.[1]

Bu ymgyrchu i gadw'r gweithfeydd yn y 1990au.

Enwogion

golygu

Addysg

golygu

Lleolir Ysgol Gynradd Gwaelod Y Garth ar y briffordd yn y pentref, sef ysgol gynradd ddwyieithog gyda unedau Cymraeg a Saesneg arwahan. Derbyniai dros 70% o'r plant eu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

Côr Godre'r Garth

golygu

Sefydlwyd Côr Godre'r Garth yn y pentref yn 1974. Er nad yw'r côr yn ymarfer yn y pentref mwyaf mae'n dal i arddel yr enw ac yn denu cantorio'n o'r ardal gyfagos.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan y BBC; adalwyd 6 12 2015

Dolenni allanol

golygu