Ar y Groesffordd

drama gan R. G. Berry
(Ailgyfeiriad o Ar y Groesffordd (Drama))

Mae Ar y Groesffordd yn ddrama mewn pedair Act gan Robert Griffith Berry (1869—1945). Mae'n ymwneud â gwrthdaro rhwng gweinidog ifanc a'i gynulleidfa am briodoldeb ei gariad i ddyfod yn wraig weinidog.

Ar y Groesffordd
Math o gyfrwnggwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurR. G. Berry Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Roedd yr Arglwydd Howard de Walden yn cynnig gwobr flynyddol o £100 (swm sylweddol gwerth dros £10,000 yn 2021[1])  am ddramâu, yn y Saesneg neu yn y Gymraeg, oedd yn ymdrin â bywyd Cymreig. Daeth "Ar y Groesffordd," yn gydradd gyntaf yn y gystadleuaeth ym 1913, gan dderbyn hanner y wobr.[2]

Perfformiwyd y ddrama am y tro cyntaf yng Nghaerdydd ym Mai 1914. Siomedig oedd yr ymateb yng Nghaerdydd[3] ond yn fuan daeth y ddrama yn hynod boblogaidd gyda chwmnïau amatur drwy Gymru gyfan. Cyhoeddwyd y ddrama ym 1914 gan yr Educational Publishing Co. Ltd, Caerdydd [4]

Cymeriadau

golygu
CYMERIADAU

Parch. Eifion Harris—Gweinidog Seilo.
Richard Davis (Dic Betsi)—Tad Nel.
BLAENORIAID SEILO:
Jared Jones,—saer
Morgan Hopcyn,— siopwr
Ifan Wyn,—crydd
Dafydd Elis,—postman
Doctor Huws.
Mr Blackwell-Gŵr y Plas.
Harri—Prentis Jared Jones.
Nel Davis.
Marged Harris—Chwaer y Gweinidog[5]

Amlinelliad

golygu

Mae ysbaid o ychydig ddyddiau rhwng Act I ac Act II. Mae ysbaid o flwyddyn rhwng Act II ac Act III, a rhwng Act III ac Act IV.

ACT. I—Gweithdy'r Saer

golygu

Mae'r llen yn codi ar weithdy saer Jared Jones, gyda Jared a'i brentis, Harri yn saernïo drws newydd i blas Mr Blackwell, y sgweier Torïaidd lleol. Ymhen ychydig mae cyd flaenoriaid Jared yng Nghapel Seilo: Morgan Hopcyn,—siopwr; Ifan Wyn,—-crydd a Dafydd Elis,—postman yn dod i'r gweithdy ac mae'r pedwar yn dechrau sgwrs dros fygiad cetyn. Mae'r sgwrs yn dechrau gyda'r tri blaenor arall yn cyhuddo Hopcyn y siop am fod yn rhagrithiwr am gredu bod ysmygu yn bechod sy'n ddrwg i'r iechyd, ond eto'n gwerthu baco. Mae Hopcyn yn taro nôl trwy eu cyhuddo nhw am fod yn rhagrithwyr gan eu bod, fel Rhyddfrydwyr triw, yn fodlon gwasanaethu'r sgweier Torïaidd, trwy wneud drysau, sgidiau a rhannu llythyrau ar ei gyfer. Mae'r drafodaeth yn troi'n un grefyddol gyda'r blaenoriaid yn methu cytuno os byddair Apostol Paul, gwneuthurwr pebyll wrth ei alwedigaeth, yn gwneud pabell i berson anghristionogol. Mae Jared yn danfon Harri i nôl Mr Harris, gweinidog newydd Seilo, i ddod i dorri'r ddadl. Mae'r Parch Eifion Harris yn weinidog ifanc, newydd ei ordeinio rhyw fis ynghynt. Wedi torri'r ddadl (byddai'r apostol yn gwneud pabell i anghrediniwr ac yn achub ar y cyfle i efengylu iddo) mae Mr Harris yn gofyn i Jared am gael trio allan ei offer saernïo gan mae saer bu ei waith ef cyn iddo roi'r gorau i'r grefft er mwyn y weinidogaeth.

Fel gweinidog newydd brwd mae Mr Harris yn dweud wrth y blaenoriaid am ei fwriad o ymweld â phob teulu yn y pentref sydd ddim yn mynychu lle o addoliad a rhoi gwahoddiad iddynt ddod yn wrandawyr yn Seilo ambell i Sul. Mae'r blaenoriaid yn synnu at, ond yn cymeradwyo, ei gynllun. Ond maent yn ei rybuddio i beidio ymweld â chartref Dic Betsi, meddwyn a photsiwr didrugaredd a'i ferch wyllt Nel.

Ar ddiwedd yr olygfa, pan fydd pawb ond Jared wedi mynd adref ac mae ef wrthi'n cau'r gweithdy mae Nel yn troi i fynnu. Mae hi wedi cael ei throi allan o'r tŷ gan ei thad yn ei dymer meddw. Mae gan Jared cydymdeimlad â Nel, gan ei fod wedi bod yn gariad i Martha, ei diweddar fam, cyn iddi benderfynu priodi Dic Betsi. Mae Jared yn rhoi goriad ei dŷ iddi gael cysgu yno, tra ei fod o'n bodloni cysgu yn y gweithdy. [6]

ACT II—Cegin Dic Betsi.

golygu

Mae Dic Betsi yn paratoi i fynd allan gyda'r nos i botsio. Mae Nel yn ceisio ei berswadio i beidio mynd. Ac mae Dic yn bygwth curo Nel am ei rhyfyg am geisio dweud wrtho be i wneud. Mae o'n dweud wrth Nel am estyn ei gŵn hela ato. Wrth estyn y gŵn mai Nel yn gweld golau glas yn rhedeg lawr ei faril (cannwyll corff, darogan marwolaeth) mae hi'n dweud wrth ei thad am yr hyn a welodd ac yn erfyn arno eto i beidio mynd allan. Mae Dic yn colli ei dymer eto. Mae ei dymer a'i fygythiadau yn achosi darlun o'i ddiweddar wraig, Martha, i syrthio o'r wal i'r llawr, mae Nel yn gweld hynny fel arwydd o'i fam yn erfyn ar Dic i beidio mynd allan hefyd. Mae Dic yn gwawdio ei hofnau ac yn mynd allan i wneud ei ddrygwaith, ta waeth. Wrth fynd mae'n datgelu ei fod o a'r sgweier Blackwell yn perthyn i'w gilydd a bod ganddo gymaint o hawl i bysgod a helfilod yr ystâd ac sydd gan Blackwell.

Ychydig ar ôl ymadawiad ei thad mae'r parch Eifion Harris yn ymweld a'r aelwyd, wedi penderfynu anwybyddu siars ei flaenoriaid mae gorchwyl ofer byddai galw acw i'w gwadd i'r capel. Gan nad yw Nel wedi derbyn unrhyw cyfarwyddyd sut i drin gweinidog yr efengyl efo'r dyledus parch mae ei swydd yn haeddu, mae hi'n digywilydd efo fo yn, dynnu ei goes ac yn chwareus efo fo. Ond mae hi'n ymddifrifoli wrth sôn am sut mae hi'n teimlo wrth clywed rhu yr afon, a gwynt yn nail y coed, gan ddangos i Mr Harris bod ganddi rhywfaint o ymdeimlad ysbrydol.

Trwy dweud bod marciau calch ar ei got mae Nel yn cael Mr Harris i dynnu ei gôt er mwyn iddi cael ei frwsio'n lan. Yn lle gwneud hynny mae hi'n gwisgo gôt a het y gweinidog ac yn cerdded o gwmpas yr ystafell ynddynt. Ar hyn ddaw ei thad adref yn annisgwyl. Rhoddodd argoelion ei ferch, cyn iddo mynd allan, braw iddo a phenderfynodd troi am adref. Mae o'n ffieiddio o weld gŵr ifanc diarth yn ei dŷ a'i ferch yn gwisgo ei ddillad, ac yn amau'r gwaethaf. Mae'n bygwth y gweinidog ond yn hytrach nac ofni mae Mr Harris yn sefyll ei dir ac yn egluro ei neges. Mae Dic yn synnu at diffyg braw rhyw llipryn o weinidog ifanc ac yn ei wawdio i gael teimlo ei gyhyrau. Mae Mr Harris yn cytuno ac mae Dic yn synnu bod y gweinidog yn ddyn efo cyhyrau cryf, caled, gydnerth. Mae o'n gwrthod gwahoddiad Mr Harris i fynychu'r capel, yn diolch iddo ac yn dymuno nos dawch barchus iddo.[7]

ACT III.—Study yn Nhŷ'r Gweinidog

golygu

Rhyw flwyddyn ar ôl iddo ymweld â bwthyn Nel a Dic Betsi, mae'r Parch Eifion Harris yn ei stydi yn ceisio cywreinio pregeth. Mae Marged ei chwaer efo fo yn ei gynorthwyo. Mae Eifion yn gofyn i Marged chwilio mynegai ysgrythurol am y term "Llongddrylliad am y ffydd". Wedi iddi ganfod yr adnod ac wedi i Eifion egluro sut mae am ei ddefnyddio yn ei bregeth, mae'n teimlo anghynhesrwydd yn codi rhyngddo ef a'i chwaer. Mae Marged yn dweud wrtho ei fod o am wynebu llongddrylliad ffydd ei hun gan fod si ar led ei fod yn caru'r ferch wyllt Nel ac am ei phriodi! Bod o "Ar y Groesffordd" rhwng dewis ei alwad i'r weinidogaeth neu ddewis cymar anaddas i'r swydd o wraig i weinidog

Mae Eifion yn ymateb mae rhagrith ar ran yr Eglwys byddai ei orfodi i wneud y fath dewis, ond o'i orfodi Nel fyddai'r dewis. Ar hyn mae Nel yn dod i'r tŷ mewn gofid am ei fod wedi clywed bod ei thad yn cael ei gario o goed y plas wedi cael damwain difrifol. Daw Doctor Huws yn fuan ar ei hôl hi i ddweud bod Dic Betsi wedi cael anaf mor ddifrifol ni fydd modd ei gario gartref i roi triniaeth iddo. Mae'n gofyn caniatâd Eifion a Marged Harris i ddod a'r claf i'r mans i geisio ei drin. Wedi clywed bod y Doctor a Nel a Dic Betsi yn y mans mae'r pedwar blaenor yn mynd yno i weld be sy'n digwydd. Wrth iddynt nesáu at y tŷ maent yn gweld Mr Harris yn rhoi cysur i Nel. Mae Hopcyn ac Ifan yn sicr bod y cysur yn fwy na'r hyn byddid disgwyl iddo roi yn rhinwedd ei swydd fel gweinidog. Bod y cysur yn brawf diymwad o wirionedd y si bod y ddau yn gariadon. Mae Ellis yn ansicr ac mae Jared o'r farn nad yw perthynas y ddau yn ddim o'u busnes nhw. Tra fo Nel yn edrych am ei thad yng nghefn y tŷ mae blaenoriaid yn penderfynu wynebu'r gweinidog i gael at y gwirionedd. Mae Mr Harris yn cydnabod ei fod am briodi Nel. Mae Ifan a Hopcyn yn glir na chaiff Nel fod yn wraig i weinidog Seilo ac os yw Mr Harris yn benderfynol o'i phriodi bydd raid iddo adael ei weinidogaeth. Mae'r blaenoriaid yn ymadael wedi cael dweud eu dweud. Ychydig funudau yn ddiweddarach mae Jared yn dychwelyd. Mae'n dweud wrth Harris ei fod yn ei edmygu am sefyll ei dir. Mae hefyd yn dweud pe bai o'n colli ei le caiff gwaith yn ei weithdy ef i ail afael ar ei grefft fel saer. Wedi clywed am yr hyn digwyddodd mai Nel yn dweud wrth Harris na fynni ei briodi ef. Mae hi'n ei garu ef yn angerddol, ond oherwydd ei chariad ni fyddai'n gwneud dim byddai'n dod rhyngddo a'i alwad.

Mae Dic yn farw. Mae Mr Blackwell o'r stad yn cadarnhau stori Dic bod y ddau yn perthyn ac yn addo bod yn gefn i Nel, fel perthynas. Mae'n cynnig talu iddi i fynd ar gwrs yn Llundain i hyfforddi fel nyrs. Mae hi'n derbyn y cynnig ar yr amod nad yw Blackwell yn dweud wrth Mr Harris lle mae hi. [8]

ACT IV—Gweithdy'r Saer

golygu

Mae blwyddyn arall wedi mynd heibio. Mae'r Doctor yng ngweithdy'r saer yn siarad efo Harri'r prentis. Mae Jared yn ddifrifol wael ac mae Harri a'r Doctor yn sôn am garedigrwydd Mr Harris am wirfoddoli i weithio am ddim yn lle Jared fel bod ei fusnes ddim yn dioddef yn ystod ei salwch. Daw Hopcyn ac Ifan i holi am iechyd Jared ac i weld sut mae Mr Harris yn ymdopi efo gwaith y saer. Mae'r Doctor yn dweud ei fod o'n hedmygu caredigrwydd y gweinidog am helpu un o'r blaenoriaid allan wedi iddynt fod mor greulon iddo parthed ei berthynas a Nel. Maen nhw'n synnu o glywed y doctor yn ddweud mai Nel wnaeth gwrthod y cynnig o briodas gan nid oedd hi am wneud niwed i'r capel.

Mae Mr Harris yn dychwelyd i'r gweithdy wedi bod adref am damed o fwyd. Mae'n danfon Harri adref i gael bwyd. Mae'r blaenoriaid yn mynd i edrych am Jared. Mae'r doctor yn dweud wrth Mr Harris ei fod wedi cyflogi cloben o Saesnes hyll o nyrs i edrych ar ôl Jared. Mae o'n gofyn a bydd yn iawn i'r nyrs galw  i nôl olion coed i gynnau tân yn y tŷ. Mae'r nyrs yn dod i nôl y coed, mae Mr Harris yn cael sioc o ganfod mae Nel yw'r nyrs. Mae Nel yn dweud wrtho'n drist nad oes pwrpas iddynt ail adfer eu perthynas gan y byddai'r gwrthwynebiad iddi yn parhau. Trwy weddill yr olygfa mae'n cael bod Marged a'r blaenoriaid wedi newid eu meddwl amdani. Maen nhw bellach yn gwybod ei bod hi'n aelod o deulu parchus y plas. Mae hi wedi cael addysg a hyfforddiant i wneud swydd gyfrifol. Mae Harris wedi dod i sylw ei enwad ac wedi derbyn galwadau i rai o gapeli mawr y cyfundeb, felly does dim nerth bellach mewn bygwth ei le fel gweinidog.

Mae Jared yn dod i'r gweithdy yn holliach. Mae o'n dweud mai tric oedd ei salwch wedi dyfeisio ganddo ef, y doctor a Mr Blackwell. Roedd y tri yn gwybod byddai Nel yn dychwelyd i'r pentref fel nyrs os oedd hi'n meddwl bod ei fywyd ef yn y fantol ac y byddai'r ddau gariad yn cael eu haduno. Heb unrhyw wrthwynebiad ar ôl, bellach, mae'r ddau yn cytuno i fynd rhagddi i briodi.[9]

Cyfeiriadau

golygu
  1. MeasuringWorth
  2. "Tipyn o Bopeth - Llangollen Advertiser Denbighshire Merionethshire and North Wales Journal". Hugh Jones. 1914-01-02. Cyrchwyd 2022-05-31.
  3. "Welsh Drama at Cardiff - The Cambria Daily Leader". Frederick Wicks. 1914-05-15. Cyrchwyd 2022-05-31.
  4. Hysbyseb, Cymru, Cyf 47, 1914
  5. Ar y Groesffordd, Wicidestun—Cymeriadau
  6. Ar y Groesffordd, Wicidestun, Act I—Gweithdy'r Saer
  7. Ar y Groesffordd, Wicidestun, Act II—Cegin Dic Betsi
  8. Ar y Groesffordd, Wicidestun, Act III—Study Tŷ'r Gweinidog
  9. Ar y Groesffordd, Wicidestun, Act IV—Gweithdy'r Saer