Raad ny Foillan
Llwybr arfordirol hir yn Ynys Manaw yw Raad ny Foillan (Llwybr yr Wylan; Saesneg: The Way of the Gull).[1] Oherwydd ei fod yn ddolen gaeedig o amgylch yr arfordir, gellir ei cherdded naill ai i gyfeiriad clocwedd neu i gyfeiriad gwrthglocwedd.
Enghraifft o'r canlynol | hiking trail |
---|---|
Rhanbarth | Ynys Manaw |
Hyd | 95 milltir |
Llwybr a hanes
golyguMae'r Raad ny Foillan yn cychwyn ac yn gorffen ym Mhont y Mileniwm dros Harbwr Doolish (Douglas). Mae'r llwybr, sy'n 102 milltir (164 km) o hyd, yn ffurfio dolen gyflawn o amgylch arfordir Ynys Manaw, gydag arwyddion yn dangos gwylan wen ar gefndir glas.
Crëwyd y daith gerdded i nodi dathliadau "Blwyddyn Treftadaeth" yr Ynys ym 1986 ac mae'n dilyn yr arfordir yn gyffredinol, gan fynd trwy dir sy'n amrywio o draethau graean yn yr Ayres i fryniau a chlogwyni dros 430m o uchder.
Mae'r llwybr yn cynnwys yr adrannau canlynol:
- Doolish i Castletown, gan gynnwys penrhyn Langness 19.75 milltir (31.78 km)
- Castletown i Port St Mary, 6 milltir (9.7 km)
- Port St Mary i Port Erin, 7 milltir (11 km)
- Port Erin i Peel, 15 milltir (24 km) (gellir byrhau'r rhan hon trwy adael Bradda Head a'r Niarbyl allan)
- Peel i Kirk Michael, 7.5 milltir (12 km)
- Kirk Michael i Jurby, 7 milltir (11 km)
- Jurby i Point of Ayre, 8.5 milltir (14 km)
- Point of Ayre i Ramsey, 7.5 milltir (12.1 km)
- Ramsey i Machold, 5 milltir (8 km)
- Maughold i Laxey, 8 milltir (13 km)
- Laxey i Douglas, 10 milltir (16 km)
Dywedir bod y llwybr 95 milltir yn cymryd pum diwrnod i'w chwblhau, gyda dewis o lety cyfagos ar gael trwy gydol o siwrnau.[2]
Yr Amser Cyflymaf Hysbys (FKT) ar gyfer y Raad ny Foillan yw 21 awr, 21 munud a 25 eiliad, wedi'i osod gan Orran Smith[3] (hunangynhaliol) ym mis Hydref 2020.
Planhigion a bywyd gwyll
golyguMae'n bosibl y bydd y rhannau arfordirol yn darparu ar gyfer gweld adar y môr fel gwylanod coesddu, adar drycin Manaw, palod, gwylogod a gwylanod ynghyd â morloi llwyd, ac mewn mannau tua'r tir y defaid Manx Loaghtan prin ar ardaloedd a warchodir gan Dreftadaeth Genedlaethol Manaw.[4]
Oriel
golygu-
Llwybr y clogwyni'n edrych i'r De Orllewin
-
Safle Treftadaeth Genedlaethol Ynys Manaw, "The Chasms", ar hyd y llwybr
-
Bwthyn yn Ballachrink ar hyd y llwybr
-
Pont droed dros Afon Cornaa
-
Raad ny Foillan yn gorsaf dân Kirk Michael
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Walking and Wildlife on the Isle of Man - Raad Ny Foillan (Road of the Gulls) - Isle of Man Government -". 2009-04-17. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-04-17. Cyrchwyd 2021-05-08.
- ↑ "Manx Notebook". Cyrchwyd 17 Medi 2022.
- ↑ "Raad Ny Foillan (United Kingdom) | Fastest Known Time". fastestknowntime.com.
- ↑ Smith, Rory (15 June 2002). "Leg Man". The Guardian. Cyrchwyd 18 December 2017.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan Llywodraeth Ynys Manaw ar y Llwybr
- Fideo Isle of Man 100 Mile Hike
- Gwefan Llywodraeth Ynys Manaw
- Gwfan VisitIsleOfMan
- Grŵp Manx Footpath Conservation Archifwyd 2016-03-25 yn y Peiriant Wayback